Skip page header and navigation

Sgiliau Astudio

Sgiliau Astudio

Mae llawer o adnoddau i’ch helpu chi i wella eich sgiliau astudio yn ystod eich amser gyda Phrifysgol Cymru. Dilynwch y dolenni isod i ddechrau arni:

Osgoi llên-ladrad

What Is Plagiarism?

Llên-ladrad yw pan fydd rhywun yn ceisio cyflwyno gwaith rhywun arall fel ei waith ei hun, boed yn fwriadol neu’n anfwriadol. Mae enghreifftiau o lên-ladrad yn cynnwys: 

  • Prynu traethodau o wefannau a’u cyflwyno fel eich gwaith eich hun
  • Copïo traethodau neu erthyglau o’r we a’u cyflwyno nhw fel eich gwaith eich hun
  • Copïo adrannau o lyfrau, cyfnodolion, traethodau hir, gwefannau ac ati i’ch gwaith eich hun heb ddarparu cyfeiriad ar gyfer y deunydd
  • Dyfynnu gwaith rhywun arall heb roi’r geiriau rhwng dyfynodau
  • Cyfeirnodi deunydd yn anghywir
  • Copïo brawddegau gyda rhai geiriau wedi’u newid heb ddarparu cyfeiriad

Pam Mae Llên-Ladrad Yn Broblem? 

Ystyrir mai ymgais i gael mantais annheg dros fyfyrwyr eraill yw llên-ladrad ac mae achosion lle mae llên-ladrad yn cael eu trin yn ddifrifol yn y gymuned academaidd.

Mae unrhyw fyfyriwr sydd wedi’i gofrestru ar gwrs wedi’i ddilysu gan Brifysgol Cymru yn amodol ar weithdrefn y Brifysgol. Mae’r Weithdrefn yn nodi polisi Prifysgol Cymru ar lên-ladrad a dylai myfyrwyr ymgyfarwyddo â’r ddogfen i osgoi llên-ladrad a mathau eraill o arfer annheg.  

Mae’r doreth enfawr o adnoddau rhad ac am ddim sydd ar gael ar y we yn golygu ei bod hi bellach yn haws i fyfyrwyr lên-ladrata. Fodd bynnag, mae’n haws ei ganfod oherwydd ei bod hi’n haws chwilio am wybodaeth yn ddigidol. 

Gall meddalwedd canfod llên-ladrad megis Turnitin wirio gwaith a gyflwynwyd ar gyfer deunydd sydd wedi’i gyfeirnodi’n anghywir neu sydd wedi ei gam-briodoli. 

Mae gan bob sefydliad a ddilysir gan Brifysgol Cymru fynediad i Turnitin. Cyfeiriwch at eich sefydliad os ydych chi am wybod rhagor am sut mae’ch sefydliad yn defnyddio Turnitin.  

Mae rhai myfyrwyr yn llên-ladrata oherwydd diffyg sgiliau chwilio ar y we neu oherwydd cyfyngiadau amser. 

Dylai dysgu sut i chwilio’r we yn effeithiol a ble i ddod o hyd i adnoddau gwe dibynadwy, arbed amser i chi wrth chwilio am ddeunydd i helpu gyda’ch astudiaethau. Mae tiwtorial Ditectif Rhyngrwyd yr Athrofa yn lle da i ddechrau wrth ddysgu am sut i chwilio am adnoddau ar y we a’u gwerthuso.   

Beth Dylwn I Ei Wneud I Osgoi Llên-Ladrad? 

Gellir osgoi’r rhan fwyaf o achosion o lên-ladrad yn hawdd trwy ddyfynnu’r deunydd rydych chi’n cyfeirio ato’n ofalus ac yn gywir. 

Mae’n arfer da defnyddio meddalwedd lyfryddiaethol i reoli eich cyfeiriadau gydol y broses ymchwil. 

Gweler y dudalen cyfeirnodi am ragor o wybodaeth am gyfeirnodi.

Ble Galla I Ddod O Hyd I Ragor O Wybodaeth Am Lên-Ladrad?

Mae gan Plagiarism.org a PlagiarismAdvice.org adnoddau defnyddiol ychwanegol i’ch helpu i osgoi llên-ladrad.

Cyfeirnodi

Y ffordd orau o osgoi llên-ladrad yw cyfeirnodi’n gywir a gofalus y deunyddiau rydych chi’n ymgynghori â nhw yn ystod eich ymchwil ac wrth ysgrifennu.   

Mae cyfeirnodi yn golygu nodi’r deunyddiau rydych chi’n eu dyfynnu neu’n cyfeirio atyn nhw yng nghorff eich gwaith a darparu rhestr gyfeiriadau/llyfryddiaeth ar ddiwedd eich gwaith. 

Mae llawer o wahanol arddulliau cyfeirnodi i ddewis rhyngddyn nhw. Bydd y dewis arddull cyfeirnodi yn amrywio mewn gwahanol sefydliadau a hyd yn oed mewn gwahanol adrannau yn yr un sefydliad. 

Os nad ydych chi’n siŵr pa arddull cyfeirnodi i’w defnyddio, gofynnwch i’ch darlithydd neu weinyddwr cwrs pa arddull y mae’n ei hargymell. 

Am gyflwyniad i rai o’r arddulliau cyfeirio a ddefnyddir yn helaeth, ewch i dudalen we Arddulliau Cyfeirnodi. 

Cyngor! Pa un bynnag fo’r arddull cyfeirio rydych chi’n penderfynu ei defnyddio, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n defnyddio’r arddull hon yn gyson gydol eich gwaith.

Arddulliau cyfeirnodi

Isod mae cyflwyniad i rai o’r arddulliau cyfeirnodi mwyaf poblogaidd a dolenni at enghreifftiau o ddogfennau canllaw cyfeirnodi a thiwtorialau ar gyfer pob un o’r arddulliau cyfeirnodi dan sylw.

  • Mae arddull cyfeirnodi Harvard yn enghraifft o gyfeirnodi awdur-dyddiad. Mae arddull Harvard yn gyffredin iawn ac fe’i defnyddir ar draws y rhan fwyaf o bynciau.   

    Gyda system Harvard, pan fyddwch chi’n dyfynnu gwaith rhywun arall (drwy gynnwys dyfyniad neu drwy aralleirio eu gwaith), mae angen i chi gynnwys enw olaf yr awdur a’r dyddiad cyhoeddi mewn cromfachau ar ôl y dyfyniad yng nghorff eich papur. Wedyn mae’r cyfeiriad llawn at y gwaith wedi’i gynnwys mewn rhestr gyfeiriadau neu lyfryddiaeth yn nhrefn yr wyddor ar ddiwedd eich papur.   

    Does dim un ffurf bendant ar arddull cyfeirnodi Harvard gan nad oes sefydliad sy’n pennu safonau ar gyfer yr arddull. 

    Er yr enw, nid yw’r arddull yn gysylltiedig â Phrifysgol Harvard. 

    Gan nad oes un safon, mae amrywiadau ar arddull Harvard. 

    Fel gyda phob arddull cyfeirnodi, mae’n bwysig eich bod chi’n defnyddio’r fersiwn o’r arddull Harvard rydych chi’n ei ddewis yn gyson. 

    Dolenni Harvard 

  • Mae Cymdeithas Seicolegol America yn cyhoeddi canllaw arddull, sef Publication Manual of the American Psychological Association, a ddefnyddir yn gyffredin gan awduron, golygyddion a myfyrwyr yn y pynciau gwyddorau cymdeithasol. 

    Mae’r APA hefyd yn darparu tiwtorial ar-lein sylfaenol rhad ac am ddim i ddefnyddio’r Arddull APA sy’n cynnwys arweiniad ar sut i gyfeirnodi. 

    Dolenni APA

    Gallai’r canllawiau APA canlynol sydd ar gael yn rhad ac am ddim hefyd eich helpu i gyfeirnodi eich gwaith gan ddefnyddio arddull yr APA: 

  • Mae Gwasg Prifysgol Chicago yn cyhoeddi The Chicago Manual of Style. 

    Mae hefyd fersiwn ar-lein, sef The Chicago Manual of Style Online sy’n cynnig treial 30 diwrnod rhad ac am ddim. 

    Mae The Manual yn cynnwys Canllaw Cyflym Cyfeirnodi Arddull Chicago rhad ac am ddim sy’n rhoi enghreifftiau o sut i ddyfynnu amrywiaeth o gyfeiriadau gan gynnwys llyfrau, penodau llyfrau, erthyglau cyfnodolion, papurau newydd, adolygiadau o lyfrau, traethodau ymchwil a gwefannau. Mae hefyd yn cynnwys adran Cwestiynau Cyffredin gynhwysfawr.   

    Dolenni Chicago

    Mae llawer o ganllawiau ar arddull Chicago rhad ac am ddim ar y we gan gynnwys:

  • Wedi’i ddatblygu gan Gyfadran y Gyfraith ym Mhrifysgol Rhydychen, defnyddir OSCOLA i ddyfynnu awdurdodau, deddfwriaeth a deunyddiau cyfreithiol eraill. 

    Gellir gweld y pedwerydd argraffiad yma. Mae hefyd ganllaw cyfeirnodi cyflym SCOLA

    Nid yw’r pedwerydd argraffiad yn cynnwys cyngor cyfeirnodi ar gyfer ffynonellau Cyfraith Ryngwladol, fodd bynnag, mae’r adran ar ddyfynnu’r ffynonellau hyn o argraffiad 2006 o OSCOLA ar gael ar ffurf dogfen ar wahân: OSCOLA 2006: Dyfynnu Cyfraith Ryngwladol.         

    OSCOLA Links

    • The Oxford Standard for Citation of Legal Authorities - hafan
    • Banc Adnoddau Llythrennedd Gwybodaeth Prifysgol Caerdydd   - Dyfynnu’r Gyfraith
  • Defnyddir arddull cyfeirnodi IEEE (Sefydliad Peirianwyr Trydanol ac Electroneg) mewn disgyblaethau peirianneg. 

    Mae llawlyfr arddull IEEE 2009 yn cynnwys canllawiau ar gyfeirnodi a gellir ei weld ar ffurf dogfen pdf yma

    Mae canllaw cyfeirnodi dyfyniadau ar gael yma

    Mae arddull cyfeirnodi IEEE yn cyfeirio at The Chicago Manual of Style am arweiniad ar ddyfynnu unrhyw adnoddau nad ydyn nhw wedi eu cynnwys yn llawlyfr arddull IEEE.   

    Dolenni Links

    Mae canllawiau ar-lein, rhad ac am ddim ar ddefnyddio arddull cyfeirnodi IEEE gan gynnwys: 

    Prifysgol Toronto, Canolfan Cyfathrebu Peirianneg - Dogfennaeth Arddull IEEE