Skip page header and navigation

Graddau Ymchwil

Graddau Ymchwil

Mae gan Brifysgol Cymru reoliadau a chodau ymarfer sy’n rheoli prosesau cyflenwi a gweinyddiaeth rhaglenni ymchwil sy’n arwain at ddyfarniad y Brifysgol (MPhil, PhD a Doethuriaethau Proffesiynol) mewn Canolfannau Cydweithredol. Bwrdd Graddau a Dyfarniadau Academaidd Prifysgol Cymru sy’n gyfrifol am sicrhau bod safonau academaidd y dyfarniadau yn cael eu cynnal yn yr holl sefydliadau a chanolfannau sy’n darparu graddau Prifysgol Cymru.

Rydym ni ar hyn o bryd yn datblygu tudalennau gwe dwyieithog a fydd yn golygu y bydd modd cyrchu’r holl reoliadau a dogfennau gweithredol yn rhwydd ac yn gyfleus yn yr un lle.

Yn y cyfamser dylid anfon unrhyw ymholiadau yn ymwneud â rheoliadau, codau ymarfer, rheolaeth a darpariaeth gyffredinol dyfarniadau ymchwil Prifysgol Cymru mewn Canolfannau Cydweithredol at yr Pennaeth Ymchwil, Menter ac Arloesi, Dr Neil Strevett - neil.strevett@cymru.ac.uk

Dylid anfon unrhyw ymholiadau yn ymwneud â gwaith y Bwrdd Graddau a Dyfarniadau Academaidd at Ysgrifennydd y Bwrdd, Mrs Lucy Stonehouse - Lucy.Stonehouse@wales.ac.uk 

Dolenni Perthnasol