Skip page header and navigation

Sêl y Brifysgol

Sêl y Brifysgol

UoW Seal
UoW Seal

Mae’r darlun hwn o Sêl Gyffredin y Brifysgol wedi ei wireddu ar sail cynllun gwreiddiol a gyflwynwyd i’r Brifysgol gan Syr Edward Burne-Jones, Barwnig (1833-1898), yr arlunydd Cymreig sy’n nodedig am ei beintiadau a’i gynlluniau addurniadol neo-ganoloesol rhamantaidd, yn arbennig mewn gwydr lliw.

Ar flaen y Sêl ceir ffigur sy’n eistedd o dan arcêd ac yn dal llyfr agored. Cynrychioli gwaith addysgu’r Brifysgol y mae hwn: sef Doethineb neu Wybodaeth yn Addysgwr. I’r dde ac i’r chwith ceir dau ffigur yn sefyll, hwythau’n dal llyfrau ac yn cynrychioli myfyrwyr y Brifysgol a’i graddedigion, ynghyd â tharianau’r tri Choleg Cyfansoddol gwreiddiol ac arnynt eu dyfeisiau, sef y Rhosyn, y Castell a’r Byrllysg.

Mae’r arysgrif o’i hamgylch (Orietur in tenebris lux et aedificabuntur deserta seculorum) wedi ei chodi o fersiwn Lladin y Fwlgat o lyfr Eseia, Pennod 58, Adnodau 10 a 12. Mae dyfyniad llawnach o’r adnodau hyn, yn Gymraeg ac yn y Fersiwn Saesneg Awdurdodedig, yn rhan o ddatganiad ffurfiol holl gynulliadau graddio’r Brifysgol: “Yna dy oleuni a gyfyd mewn tywyllwch, a’th dywyllwch a fydd fel hanner dydd. A’r rhai a fyddant ohonot ti a adeiladant yr hen ddiffeithleoedd / Then shall thy light rise in obscurity, and thy darkness be as the noon-day, and they that shall be of thee shall build the old waste places” - gan gyfeirio at adfywio dysg yng Nghymru, adfywiad a goronwyd pan grewyd y Brifysgol.

Mae’r cynllun yn ymgorffori arwyddair y Brifysgol, Goreu Awen Gwirionedd .

Ar gefn y Sêl gwelir adeilad sy’n symbol o’r Brifysgol, gyda chlas isod ac ystafelloedd uchod, wedi ei leoli rhwng y mynyddoedd a’r môr. Pennill o Lucretius, Llyfr ii, llinell 8, yw’r arysgrif o’i amgylch (Edita doctrina sapientum templa serena), sy’n golygu “Tangnefeddus barthau (neu blasau) y doethion wedi eu dyrchafu gan ddysg.”