Skip page header and navigation

Hanes Cynnar y Ganolfan

Hanes Cynnar y Ganolfan

Anerchiad yr Arglwydd Cledwyn o Benrhos, adeg agor adeilad Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, 28 Mai 1993 (cyhoeddwyd yn Y Traethodydd, Hydref 1993).

Y mae’r achlysur hyfryd hwn heddiw yn ddiwedd hen stori ac, fe obeithiwn, yn gychwyn stori newydd. Yn 1940 sefydlwyd Ysgol Astudiaethau Celtaidd fel rhan o Athrofa Uwchefrydiau Dulyn a bu hyn yn foddion i ennyn dyhead am Ysgol debyg yng Nghymru. Pan ymunodd Dr Elwyn Davies â staff Cofrestrfa Prifysgol Cymru yn 1945, fel Ysgrifennydd y Cyngor, fe ddaeth sefydlu Ysgol o’r fath yn nod y gosododd ei fryd arno. Ddiwedd y pedwardegau a dechrau’r pumdegau fe enillodd yn gydweithwyr yr Athro Griffith John Williams o Gaerdydd a’r Athro Thomas Jones o Aberystwyth – y ddau ohonynt yn ysgolheigion mawr – ac fe wnaed ymgais gyson drwy’r pumdegau a dechrau’r chwedegau drwy Fwrdd Gwybodau Celtaidd y Brifysgol i sicrhau arian ar gyfer y fenter. ’Roedd bri cynyddol Ysgol Dulyn, a’r ffaith fod gwledydd Celtaidd eraill erbyn hyn yn creu sefydliadau tebyg, yn hwb ychwanegol i’r ymgyrch. Yn anffodus, ni chafodd ymdrechion yr ymgyrchwyr yr adeg yma eu coroni â llwyddiant. Yn 1963 fe symudodd Elwyn Davies i’r Adran Addysg a Gwyddoniaeth, fe fu Griffith John Williams farw’r un flwyddyn, a chyn hir yr oedd Thomas Jones yntau, ysywaeth, yn dioddef afiechyd cynyddol; ac felly fe ddarfu am yr ymgyrch. Yn 1970 fe benderfynodd y Bwrdd Gwybodau Celtaidd yn ffurfiol na fyddai’n mynd â’r mater ddim pellach.

O hyn ymlaen, cefais y fraint, yn gyntaf yn Aberystwyth ac wedyn fel Dirprwy Ganghellor, i ddilyn hynt a helynt yr anturiaeth. Yng nghanol y saithdegau, dyma’r Athrawon yn Ysgol Astudiaethau Celtaidd Coleg Aberystwyth (Syr Goronwy Daniel oedd yn Brifathro ar y pryd) yn cael caniatâd y Coleg i gychwyn apêl er mwyn coffáu’r llenor mawr hwnnw, Syr Thomas Parry-Williams, a fu farw yn 1975, a’i gydweithwyr enwog yn Adrannau Cymraeg a Hanes Cymru’r Coleg; daeth yr hen freuddwyd yn fyw oherwydd y bwriad oedd defnyddio enillion yr Apêl i gychwyn Canolfan Gymreig a Cheltaidd o fewn y Coleg. ’Roedd yr Apêl yn llwyddiant ac fe gychwynnwyd y Ganolfan, er gyda swyddogion mygedol – hynny yw, di-dâl! – yn unig. Y Cyfarwyddwr cyntaf oedd yr Athro J. E. Caerwyn Williams, a oedd ar y pryd yn Athro’r Wyddeleg yn y Coleg ar ôl bod yn Athro’r Gymraeg ym Mangor, ac y mae llwyddiant yr ymdrech o’r cychwyn i’w briodoli i raddau helaeth i’w gyfarwyddyd doeth a’i fri eithriadol drwy’r byd fel ysgolhaig Celtaidd. Yn 1983, eto drwy anogaeth Athrawon yr Ysgol Astudiaethau Celtaidd, fe wnaeth y Coleg, a’r Athro Gareth Owen a oedd wrth y llyw erbyn hynny, gais i Bwyllgor Grantiau’r Prifysgolion am arian i gyflogi yn y Ganolfan staff o chwech – Cyfarwyddwr, Ysgrifenyddes a phedwar Cymrawd Ymchwil – er mwyn gwneud gwaith ymchwil i bynciau sylweddol ym meysydd iaith, llenyddiaeth a hanes Cymru a’r gwledydd Celtaidd eraill. Er bod yr amseroedd yn anodd, fel y cofiwn, drwy eiriolaeth yr Athro John Cannon o Newcastle a’r Athro Eric Stanley o Rydychen, yn bennaf, fe gafodd y Coleg wybod yn 1984 fod ei gais wedi bod yn llwyddiannus.

Yn fawrfrydig iawn, yr hyn a wnaeth y Coleg oedd trosglwyddo’r plentyn yr oedd wedi’i fagu mor dyner yn syth i ofal y Brifysgol! Fe luniwyd cyfansoddiad ar ei gyfer, fe apwyntiwyd chwe aelod o’r staff gan gynnwys y Cyfarwyddwr swyddogol cyntaf, Dr R. Geraint Gruffydd, ac fe agorodd sefydliad newydd ein Prifysgol, yn cael ei ariannu erbyn hyn gan y Pwyllgor Grantiau, ei ddrysau ar 1 Hydref, 1985. Ei brosiect cyntaf – un anodd iawn – oedd golygu holl farddoniaeth Beirdd y Tywysogion Cymreig yn y ddeuddegfed a’r drydedd ganrif ar ddeg, ac y mae’r gwaith hwn bron iawn wedi ei orffen. Mae prosiectau eraill, yn cael eu noddi gan gymysgedd o arian cyhoeddus ac arian preifat, naill ai wedi cychwyn neu’n cael eu hystyried ar hyn o bryd – prosiectau ar hanes cymdeithasol yr iaith Gymraeg, ar farddoniaeth Gymraeg yr oesoedd canol diweddar ac ar enwau lleoedd Cymru. Y nod yn y pen draw – ac fe gymeradwywyd y nod hwn gan y Pwyllgor Grantiau yn 1988 – ydyw cael tri thîm ymchwil yn gweithio’r un pryd ar hanes, iaith a llenyddiaeth Cymru a’r gwledydd Celtaidd, ac y mae’r nod yma bellach bron wedi ei gyrraedd.

Am ei wyth mlynedd cyntaf, fe gafodd y Ganolfan letygarwch hael gan y sefydliad a roddodd fod iddi, Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ac y mae Prifathrawon y Coleg hwnnw yn olynol wedi bod yn Gadeiryddion Pwyllgor Rheoli’r Ganolfan – y Prifathro presennol, yr Athro Kenneth O. Morgan, ydyw ein gwesteiwr rhadlon yma brynhawn heddiw. Yn 1988, fodd bynnag, fe wnaed cais drwy Swyddog Adeiladau Coleg Prifysgol Cymru i’r Pwyllgor Grantiau am swm o arian cyfalaf i godi adeilad newydd i’r Ganolfan ar safle agos i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, lle y mae’r rhan fwyaf o ddigon o’r deunydd crai ar gyfer ei hymchwil. ’Roedd hi’n ymddangos yn rhesymegol i gynnwys yn yr adeilad newydd, gyda’r Ganolfan, Uned glodwiw Geiriadur Prifysgol Cymru , y rhoddodd y Llyfrgell Genedlaethol gartref clyd iddi am yn agos i bum mlynedd a deugain, a’i gwneud hi’n bosibl felly iddi gynhyrchu’r gwaith mawr – campwaith geiriadurol – sydd bellach yn agos at gael ei orffen. Yn garedig iawn fe ganiatawyd grant o £600,000 (fwy neu lai) gan y Pwyllgor Grantiau, ac fe ychwanegodd y Brifysgol yn agos at £300,000 at y swm hwn o’i harian hi ei hun – penderfyniad cwbl allweddol – nes bod y cyfanswm yn ddigon i gyfarfod â’r gofynion a oedd yn dilyn codi’r adeilad newydd mor agos at y Llyfrgell Genedlaethol, sydd wrth gwrs yn adeilad rhestredig. Fe fu’r Llyfrgell yn garedig iawn drwy gydol y cyfnod cynllunio ac adeiladu, ac felly’r Coleg hefyd: rhoddodd y ddau gorff les ar dir a oedd yn eiddo iddynt hwy i’r Brifysgol er mwyn i’r adeilad gael ei godi arno. Fe fu anawsterau cynllunio ar y dechrau, ond fe lwyddwyd i’w datrys drwy lawer o ewyllys da o du Cyngor Dosbarth Ceredigion. Apwyntiwyd Mr John G. Roberts, Pennaeth Swyddfa Brosiect Ysgol Bensaernïaeth Cymru, yn bensaer a’r Meistri Frank Galliers o Amwythig yn brif gontractwyr. ’Rydwy’n siŵr y cytunwch â mi eu bod hwy gyda’i gilydd wedi codi adeilad arbennig o wych, ac ’rydwy’n eu llongyfarch yn galonnog iawn ar gamp ardderchog.

Wrth orffen ’rydwy’n dychwelyd at y person cyntaf a enwais ar y dechrau, y Dr Elwyn Davies. Ni wnaeth y weledigaeth o Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd i Gymru erioed mo’i adael, a chyn ei farw yr oedd yn llawenhau bod y weledigaeth yma’n cael ei chyflawni. Wedi ei farwolaeth yn 1986 fe gyhoeddwyd ei fod wedi gadael gweddill ei ystad i’r Ganolfan, swm o fwy na hanner miliwn o bunnoedd. Mae hi’n fwy na phriodol, ar ôl i mi gyhoeddi bod yr adeilad yn swyddogol wedi’i agor, ac ar ôl i’r Cyfarwyddwr ein hannerch, ein bod yn symud i’r tu allan lle y bydd yr Athro David Davies, nai Dr Elwyn Davies, yn dadorchuddio arysgrif a fydd yn coffáu haelioni Dr Davies ac a fydd ar yr un pryd yn datgan, mewn geiriau wedi’u cerfio mewn gwenithfaen fel petai, fod y breuddwyd y bu ef yn ei goleddu mor hir, bellach wedi’i sylweddoli.