Skip page header and navigation

Arholwyr Allanol

Manylion Arholwyr Allanol

Fel yr awdurdod dyfarnu graddau, y Brifysgol sy’n gyfrifol am safonau academaidd y dyfarniadau a gynigir yn y Canolfannau Cydweithredol.

Un ffordd a ddefnyddir gan y Brifysgol i asesu safonau academaidd yw arholi allanol, sy’n rhan hanfodol o drefniadau sicrhau ansawdd y Brifysgol. Mae’r Brifysgol yn penodi unigolion cymwys a phrofiadol o’r sector Addysg Uwch i bob rhaglen yng Nghanolfannau Cydweithredol y Brifysgol. Mae’r arholwyr allanol yn gwbl annibynnol o’r Ganolfan Gydweithredol y’i penodir iddi, ac yn darparu adroddiadau ysgrifenedig i’r Brifysgol, a ddefnyddir gan y Brifysgol fel modd i asesu safonau academaidd y Ganolfan Gydweithredol. Mae’r adroddiadau hefyd yn gallu cynnig barn ddeallus am y modd y mae safonau’n cymharu â’r un dyfarniadau neu ddyfarniadau tebyg mewn sefydliadau addysg uwch eraill y mae ganddynt brofiad ohonynt.

Mae’r Brifysgol yn penodi nifer sylweddol o arholwyr allanol. Os hoffech dderbyn manylion am arholwr allanol eich rhaglen astudio chi, gellir cyflwyno cais i’r Brifysgol drwy registryhelpdesk@wales.ac.uk. Bydd y Brifysgol yn gallu rhoi enw, swydd ac enw sefydliad cartref yr arholwr allanol i chi, ond ni chaiff unrhyw wybodaeth arall ei datgelu.

Nodwch ei fod yn amhriodol i fyfyrwyr gysylltu neu geisio cysylltu’n uniongyrchol ag arholwyr allanol. Yn benodol, byddai hyn yn cynnwys cysylltu â’r arholwr allanol am eich perfformiad unigol mewn asesiadau. Cyfarwyddir arholwyr allanol sy’n derbyn cyswllt o’r fath i hysbysu’r Brifysgol ac ni fyddant yn gallu cynnal unrhyw drafodaeth. Os hoffech gyflwyno apêl neu gŵyn, gellir cysylltu â’r Brifysgol drwy appealsandcomplaints@wales.ac.uk. Neu dylid anfon ymholiadau neu geisiadau am wybodaeth i Ddesg Gymorth y Gofrestrfa drwy registryhelpdesk@wales.ac.uk.