Skip page header and navigation

Cwynion Myfyrwyr

Student Complaints

Caiff unrhyw fyfyriwr sydd wedi cofrestru ar raglen sy’n arwain at ddyfarniad Prifysgol Cymru ddefnyddio Gweithdrefn Gwyno’r Brifysgol.

Mae’r weithdrefn yn cwmpasu llawer o feysydd o fewn profiad y myfyriwr a gallai fod yn berthnasol i gwynion yn codi o brofiad addysgol myfyriwr, cwynion mewn perthynas â chymorth academaidd neu weinyddol a honiadau o aflonyddu neu gamwahaniaethu gan staff.

Ym mhob achos byddai’r Brifysgol yn anelu at weld cwynion yn cael eu datrys o fewn sefydliad y myfyriwr gyda’r lefel isaf o ffurfioldeb. Os nad yw hyn yn bosibl fodd bynnag, dylid dilyn y weithdrefn hon. 

CYFLWYNO CWYN

Os ydych chi’n dymuno cyflwyno cwyn i’r Brifysgol, rhaid i chi gwblhau’r Ffurflen Cyflwyno Cwyn a’i hanfon i apelioaccwyno@cymru.ac.uk

Nodwch nad yw’r weithdrefn hon yn gymwys i apelau yn erbyn penderfyniadau academaidd neu benderfyniad addasrwydd i ymarfer, sydd â gweithdrefnau Prifysgol Cymru ar wahân.