Skip page header and navigation

Cwestiynau Cyffredin

Cwestiynau Cyffredin

  • Wedi i’ch canlyniadau terfynol gael eu cadarnhau gan un o Fyrddau Arholi Prifysgol Cymru cânt eu cofnodi ar system cofnodion myfyrwyr y Brifysgol. Cewch eich derbyn i’ch dyfarniad in absentia ac anfonir eich tystysgrif ac Atodiad Diploma i’r Sefydliad lle buoch yn astudio.

  • Gyda’r Sefydliad sy’n darparu eich rhaglen astudio fydd eich prif berthynas. Byddant yn darparu llawlyfr myfyrwyr a deunydd cwrs i chi, fydd yn darparu’r rhaglen ac yn asesu eich astudiaethau. Byddant yn darparu’r cyfleusterau fydd eu hangen arnoch er mwyn astudio’n effeithiol ac yn eich cefnogi chi wrth i chi astudio.

    Ar ddechrau eich rhaglen ddilysedig, bydd eich Sefydliad yn eich cofrestru chi gyda Phrifysgol Cymru. A chithau’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Cymru, byddwch:

    • Yn astudio o dan Reoliadau a Gweithdrefnau Prifysgol Cymru
    • Yn gwybod bod Prifysgol Cymru yn sicrhau ansawdd eich rhaglen
    • Yn cael mynediad i amryw o wasanaethau Prifysgol Cymru
  • A chithau’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Cymru, bydd modd i chi:

    • Defnyddio Llyfrgell Ar-lein Prifysgol Cymru sy’n cynnwys eLyfrau, eGyfnodolion a chronfeydd data o safon
    • Cwrdd ag academyddion Prifysgol Cymru pan fyddant yn ymweld â’ch Sefydliad
    • Cymryd rhan mewn Dathliad Graddio i ddathlu eich camp
    • Dod yn aelod o Gymdeithas Cyn-fyfyrwyr y Brifysgol
    • Llenwi Arolwg Myfyriwr Rhyngwladol ar eich profiad astudio
    • Gwneud cais i fod yn Gynrychiolydd Myfyrwyr ar Bwyllgorau Prifysgol Cymru
  • Mae’r sefydliad sy’n darparu’r cwrs y mae gennych ddiddordeb ynddo yn gyfrifol am yr holl faterion yn ymwneud â theitheb. Am ragor o wybodaeth gweler gwefan Asiantaeth Ffiniau’r DU

  • Mae Prifysgol Cymru’n gweithio gyda nifer fawr o Sefydliadau yng Nghymru a thrwy’r byd i gyd – defnyddiwch yr adnodd Chwilio am Gwrs i weld os oes cwrs ar gael yn eich gwlad chi.

    Mae cynlluniau astudio a restrir yma yn cael eu dilysu gan Brifysgol Cymru, ond cynghorir darpar fyfyrwyr i gysylltu’n uniongyrchol gyda’r ganolfan gydweithredol am wybodaeth ynglŷn â dyddiadau derbyn myfyrwyr yn y dyfodol.

  • Gellir dod o hyd i fanylion cyswllt yr holl sefydliadau y mae’r Brifysgol yn gweithio gyda nhw ar ein gwefan trwy ddefnyddio’r adnodd Chwilio am Sefydliad

  • Yn dilyn y cyhoeddiad a wnaed gan Brifysgol Cymru mewn perthynas â datblygiad y broses uno (gweler datganiad i’r wasg -Ymdeimlad o hanes, dechreuad newydd), rydym yn cydnabod bod gan fyfyrwyr bryderon neu ymholiadau.  Fel sy’n cael ei ddatgan yn gyson, mae gan y Brifysgol ddyletswydd i ofalu am ein myfyrwyr a byddwn yn anrhydeddu ein hymrwymiad i’r holl fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ar ddyfarniadau Prifysgol Cymru ar hyn o bryd.  Gall myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr weld rhestr o Gwestiynau Cyffredin sydd wedi eu llunio’n benodol i helpu i ateb unrhyw gwestiynau gan fyfyrwyr sy’n dal i bryderu am y newidiadau hyn.

  • Unwaith i ni dderbyn eich manylion cofrestru (yn cynnwys eich cyfeiriad ebost) oddi wrth eich sefydliad, byddwch yn derbyn ebost gennym yn eich croesawu a fydd yn cynnwys eich enw defnyddiwr (eich cyfeiriad ebost) a chyfrinair i ddefnyddio’r Llyfrgell Ar-lein

  • Am wybodaeth ynglŷn â chanlyniadau eich gradd / traethawd hir, cysylltwch â’ch man astudio. Yn anffodus ni all y Brifysgol ddarparu eich canlyniadau trwy gyfrwng ebost nac ar y ffôn.

  • Os ydych chi wedi cwblhau cwrs dilysedig byddwch yn derbyn Atodiad Diploma yn awtomatig gyda’ch tystysgrif

  • Gallwch.  Os yw eich tystysgrif wedi ei ddifrodi byddwn yn anfon tystysgrif amnewid am ddim ar dderbyn y gwreiddiol. Codir ffi o £30 i amnewid tystysgrifau coll.

    Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.

  • Dylech gysylltu â’r Sefydliad a ddarparodd eich cwrs.

  • Rhaglen a gynlluniwyd gan eich sefydliad chi ac a gyflwynwyd i’w chymeradwyo ger bron Prifysgol Cymru yw rhaglen ddilysedig. Mae Dilysu yn golygu bod eich rhaglen yn cyfateb o ran lefel a safon i raglenni tebyg a gynigir trwy’r sector addysg uwch yn y DU.

  • Mae gan Brifysgol Cymru ddull gweithredu penodol i fyfyrwyr sy’n dymuno gwneud cwyn neu gyflwyno apêl academaidd.

    Apeliadau gan Fyfyrwyr
    Am ragor o wybodaeth ar y dull gweithredu, yn cynnwys meini prawf ac asesiad, neu i gyflwyno apêl cliciwch yma neu cysylltwch â appeals@cymru.ac.uk

    Cwynion gan Fyfyrwyr
    Fe ddylech geisio datrys unrhyw anawsterau’n uniongyrchol gyda’ch sefydliad ble bynnag y bo hynny’n bosib.  Os nad yw hynny’n bosib, gellir defnyddio dull gweithredu Cwynion Myfyrwyr y Brifysgol os ydych yn dymuno cwyno ynglŷn ag agweddau o’ch profiad astudio sydd ddim yn berthnasol i asesiad neu arholiadau.  Am ragor o wybodaeth cliciwch yma neu cysylltwch â complaints@cymru.ac.uk