Skip page header and navigation

Cynllun Cyhoeddi

Cynllun Cyhoeddi

Os ydych am wneud cais Rhyddid Gwybodaeth anfonwch, cysylltwch â’r Brifysgol naill ai drwy ebost cynlluncyhoeddi@cymru.ac.uk neu drwy anfon cais arlein drwy glicio yma. Neu gallwch wneud cais ysgrifenedig drwy ysgrifennu at: Y Rheolwr Cydymffurfio ac Ysgrifenyddiaeth, Prifysgol Cymru, Rhodfa’r Brenin Edward VII, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NS.

Cyflwyniad

Nod y Deddf Rhyddid Gwybodaeth yw hyrwyddo atebolrwydd ac agwedd fwy agored ledled y sector cyhoeddus. Mae’n rhoi hawl cyffredinol i gael mynediad at wybodaeth a gedwir gan awdurdodau cyhoeddus (gan gynnwys prifysgolion), yn nodi eithriadau i’r hawl hwnnw ac yn gosod nifer o rwymedigaethau ar awdurdodau cyhoeddus.

Beth yw Cynllun Cyhoeddi?

O dan Adran 19 Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae’n rhaid i’r Brifysgol gynnal Cynllun Cyhoeddi, sef dogfen sy’n amlinellu’r wybodaeth y mae’r Brifysgol yn ei chyhoeddi’n gyffredinol, sydd ar gael, neu y bwriedir iddi fod ar gael yn y dyfodol.  Nid rhestr o ddogfennau yw’r Cynllun Cyhoeddi ond arweiniad ar y gwahanol ‘ddosbarthiadau’ neu fath o wybodaeth y mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i sicrhau ei bod ar gael yn rhagweithiol.

Bwriad y Cynllun Cyhoeddi yw cynorthwyo’r cyhoedd i ganfod yr wybodaeth a gedwir gan y Brifysgol a lleihau’r angen i wneud cais ffurfiol am wybodaeth yn unol â’r Ddeddf.

Trefniadau’r cynllun

Mae’r Brifysgol wedi mabwysiadu cynllun cyhoeddi enghreifftiol y Comisiynydd Gwybodaeth i brifysgolion a sefydliadau addysg uwch eraill a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2013, sy’n cael ei drefnu yn saith dosbarth o wybodaeth:

  1. Pwy ydym ni a beth ydym yn ei wneud
  2. Beth ydym yn ei wario a sut ydym yn ei wario
  3. Beth yw ein blaenoriaethau a sut mae pethau’n mynd rhagddynt
  4. Sut ydym yn gwneud penderfyniadau
  5. Ein polisïau a gweithdrefnau
  6. Rhestrau a chofrestrau
  7. Y gwasanaethau yr ydym yn eu cynnig

Mae rhagor o fanylion am bob dosbarth ar gael yn nogfen y Comisiynydd Gwybodaeth, sef Dogfen Diffiniad y Cynllun Cyhoeddi Enghreifftiol i brifysgolion.

Mae Prifysgol Cymru yng nghyfnod olaf proses a fydd yn gweld y Brifysgol yn uno â Phrifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant (PCDDS) yn 2017/18. Bydd hyn yn creu prifysgol newydd y bydd iddi sail gref o fyfyrwyr ar draws sawl campws, ac a fydd yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau a chyfleusterau ar sail leol, ranbarthol, genedlaethol a rhyngwladol.

Yn y cyfnod cyn uno, mae Prifysgol Cymru wedi bod yn adolygu ac yn cydweddu ei pholisïau a’i gweithdrefnau allweddol â PCDDS, ac mae’n parhau i wneud hynny er mwyn sichrau trawsnewid llyfn i greu’r brifysgol ar ei newydd wedd. I gael gwybodaeth am unrhyw bolisi nad oes modd ei gyrchu’n uniongyrchol o’r Cynllun Cyhoeddi hwn cysylltwch â cynlluncyhoeddi@cymru.ac.uk

Gwybodaeth sy’n cael ei heithrio o’r cynllun

Fel rheol ni fydd yr wybodaeth sydd ar gael yn y dosbarthiadau’n cynnwys:

  • gwybodaeth sy’n cael ei heithrio dan un o eithriadau Deddf Rhyddid Gwybodaeth neu eithriadau’r Rheolau Gwybodaeth Amgylcheddol, neu bod rhyddhau’r wybodaeth yn cael ei wahardd gan ystatud arall;

  • gwybodaeth sydd wedi’i harchifo, wedi dyddio neu sydd fel arall yn anhygyrch; neu

  • wybodaeth a fyddai’n anymarferol neu’n adnodd-ddwys i baratoi i’w rhyddhau’n achlysurol.

Fformatau eraill

Os hoffech dderbyn y wybodaeth mewn fformat neu iaith arall, cysylltwch â cydymffurfiaeth@cymru.ac.uk

Cost

Mae llawer o’r wybodaeth ar gael yn rhad ac am ddim ar ein gwefan.  Mewn achosion lle mae’n anymarferol i ni ddarparu gwybodaeth drwy’r we, neu lle mae’r wybodaeth ar gael ar fformat copi caled yn unig, mae’r Brifysgol yn cadw’r hawl i godi tâl am lungopïo, postio a phecynnu. Byddwn yn codi tâl o £5.00 mewn achosion o’r fath. Os fydd y cais yn fwy na 50 tudalen A4 codir tâl ychwanegol o 10c y dudalen. Codir tâl dosbarth 1af postio yn unol â chyfraddau’r Post Brenhinol.

Rhagor o wybodaeth

Dylech fod yn ymwybodol bod mwyafrif y dogfennau a gynhwysir yn y Cynllun Cyhoeddi hwn wedi cael eu creu at ddibenion mewnol yn bennaf.  Fe all hyn greu mân broblemau weithiau o ran aneglurder i ddarllenwyr allanol.  Anfonwch unrhyw geisiadau am eglurhad am gyngor at cynlluncyhoeddi@cymru.ac.uk

Os na allwch ddod o hyd i’r wybodaeth yr ydych yn chwilio amdani drwy’r Cynllun Cyhoeddi, efallai yr hoffech roi cynnig ar yr adnodd chwilio ar y we, sydd ar gael ar frig ein tudalen hafan ar yr ochr dde.

Gellir gwneud cais ysgrifenedig am wybodaeth a gedwir gan y Brifysgol nad yw’n cael ei chyhoeddi yn ôl y cynllun hwn. Bydd ceisiadau o’r fath wedyn yn cael eu hystyried yn unol â darpariaethau’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol a’r Ddeddf Diogelu Data. Anfonwch ebost at cynlluncyhoeddi@cymru.ac.uk neu edrychwch ar y wefan ar y tudalennau Rhyddid Gwybodaeth am fanylion pellach.

Hawlfraint

Mae bron bob un o’r cyhoeddiadau a restrir yn y cynllun hwn yn dod o dan hawlfraint Prifysgol Cymru; a gallai atgynhyrchu deunydd a gyflenwir drwy’r cynllun cyhoeddi neu ymateb i gais am wybodaeth heb ganiatâd clir y Brifysgol (neu ddaliwr yr hawlfraint) fod yn torri amodau’r hawlfraint.

Cyswllt ar gyfer y dudalen hon:

Rheolwr Cydymffurfiaeth ac Ysgrifenyddiaeth, y Gofrestrfa, Rhodfa’r Brenin Edward VII, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NS Ffôn: 02920 376944 Ebost: cynlluncyhoeddi@cymru.ac.uk