Skip page header and navigation

Astudiaethau Enwau Cymreig

Astudiaethau Enwau Cymreig

Ymunodd Dr David Parsons o Sefydliad Astudiaethau Enwau Prifysgol Nottingham â staff y Ganolfan ym mis Chwefror 2009. Ar hyn o bryd y mae wrthi’n crynhoi deunydd ar gyfer creu llyfryddiaeth ar enwau yng Nghymru, a ddatblygir yn adnodd electronig ar y we o fewn ‘Campws Byd-eang’ y Brifysgol.

Bydd y ‘Guide to Welsh Name-Studies’, fel y’i gelwir am y tro, yn cynnig mwy na llyfryddiaeth brintiedig gonfensiynol oherwydd bydd yn cynnwys crynodebau llawn o lawer o erthyglau, a mynegeion electronig i astudiaethau hwy; at hynny, bydd yr holl gofnodion wedi eu tagio yn ôl y cynnwys a’r ardal y maent yn ymwneud â hwy. Bydd yn bosibl, felly, i chwilio’r gronfa ddata yn fanwl naill ai am drafodaethau ar enwau a thermau penodol, neu am astudiaethau’n ymwneud â gwahanol rannau o Gymru. Cynhwysir gweithiau ar enwau lleoedd ac enwau personol. Gobeithir y bydd fersiwn rhagarweiniol ar gael ar wefan y Ganolfan erbyn diwedd 2009. Y mae’r sgrin luniau yn rhoi syniad o sut y bydd y cyfarwyddiadur yn ymddangos.

Ein gobaith yw y bydd hwn yn adnodd gwerthfawr ynddo’i hun, ond fe’i gwelir hefyd fel y cam cyntaf tuag at sefydlu prosiect newydd ar enwau lleoedd yng Nghymru. Ar hyn o bryd y mae Dr Parsons yn ymgynghori ag ysgolheigion sy’n ymddiddori yn y maes – yn haneswyr, ieithyddwyr, archaeolegwyr, a daearyddwyr – er mwyn sicrhau y bydd y gwaith yn canolbwyntio ar y pynciau ymchwil mwyaf diddorol a buddiol. Os hoffech gymryd rhan yn y trafodaethau hyn, cysylltwch ag ef drwy e-bost (d.parsons@cymru.ac.uk).