Skip page header and navigation

Goruchwylio Traethodau Hir Gradd Athro

Goruchwylio Traethodau Hir Gradd Athro

Mae’r Brifysgol yn disgwyl i’r holl bartïon sy’n ymwneud â goruchwylio traethodau hir gradd athro trwy gwrs fod yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau neilltuol, a amlinellir isod.

i) Y traethawd arfaethedig yn ymarferol o ran yr amser a’r adnoddau sydd ar gael, ac i’w roi dan ofal goruchwyliwr ag arbenigedd perthnsaol.

i) Goruchwyliwr i gael digon o amser i gyflawni ei g/waith, yn enwedig pan fo’r garfan yn un fawr.

i) Dilyn canllawiau’r Cyngor Ymchwil, pan fo’n briodol, o ran yr adnoddau a ddarperir (gofod astudio, llyfrgell, amgylchedd ymchwil addas, ac yn y blaen).

i) Canllawiau ysgrifenedig i’w cyhoeddi yn datgan disgwyliadau cyffredinol a disgwyliadau am bresenoldeb ac am fframwaith cyfarfodydd.

i) Sicrhau bod y canllawiau hynny yn cael eu gweithredu, drwy fonitro’n gyson.

i) Pan fo ar ymgeisydd angen cymorth ychwanegol gyda sgiliau iaith, dylid ystyried y cymorth hwnnw ar wahân i weddill cyfrifoldebau’r goruchwyliwr.

i) Mecanwaith yn ei le yn galluogi myfyriwr i wneud cais i newid y goruchwyliwr, a threfniadau yn eu lle i sicrhau y bydd aelod arall o staff ar gael os bydd unrhyw oruchwyliwr yn absennol am gyfnod hir.

(viii) Y nifer o fyfyrwyr y bydd pob goruchwyliwr yn gyfrifol amdanynt yn ymarferol, er mwyn sicrhau bod gan y goruchwyliwr ddigon o amser i gyflawni’r cyfrifoldebau a restir isod.

i) Darparu cyngor a chyfarwyddyd i fyfyrwyr er mwyn hwyluso’r gwaith o greu traethawd sydd o’r safon a ddisgwylir ar lefel gradd Meistr a Ddysgir.

i) Y traethawd arfaethedig i fod o fewn cylch arbenigedd y goruchwyliwr, y pwnc a ddewisir i’w ddiffinio’n fanwl mewn ymgynghoriad gyda’r myfyriwr.

(iii) Y traethawd arfaethedig yn un y gellir ei gwblhau o fewn yr amser sydd ar gael.

(v) Cytuno ar amserlen ar gyfer cyflwyno gwaith ac ar gyfer cyfarfodydd cyson.

(vi) Cadw cofnod manwl, wedi ei gytuno rhwng y goruchwyliwr a’r myfyriwr, o bob cyfarfod ffurfiol, yn cynnwys dyddiadau, camau gweithredu y cytunwyd arnynt a therfynau amser a osodwyd.

(iv) Dychwelyd gwaith yn ôl amserlen y cytunwyd arni, gyda sylwadau adeiladol.   

i) Y traethawd a gyflwynir i fod, yn anad dim, yn waith y myfyriwr ei hun, ond gyda chyngor a chyfarwyddyd gan y goruchwyliwr.

i) Cytuno ar amserlen i gyflwyno gwaith ac amserlen cyfarfodydd cyson.

(iii) Cadw cofnod manwl, wedi ei gytuno rhwng y goruchwyliwr a’r myfyriwr, o bob cyfarfod ffurfiol, yn cynnwys dyddiadau, camau gweithredu y cytunwyd arnynt a therfynau amser a osodwyd.

(iv) Cysylltu â’r Goruchwyliwr os teimlir bod angen cyfarfodydd ychwanegol.

(v) Gwaith i’w gwblhau o fewn fframwaith y cytunwyd arno, a’r myfyriwr i hysbysu’r goruchwylir yn ysgrifenedig gynted â phosibl os cyfyd unrhyw broblemau o ran gwaith hwyr (neu anfoddhaol).