Angharad Elias BA, MPhil, PhD

Swydd: |
Swyddog Gweinyddol |
e-bost: |
a.elias@cymru.ac.uk |
Ffôn: |
01970 636543 |
Ffacs: |
01970 639090 |
Cyfeiriad post: |
Dr Angharad Elias, Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3HH |
Enillodd Angharad Elias raddau BA dosbarth cyntaf ac M.Phil. yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth, a Ph.D. yn Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archeoleg Prifysgol Bangor. Astudiaeth destunol a golygiad o un o lawysgrifau cyfraith Hywel Dda oedd pwnc ei doethuriaeth. Cyhoeddodd ddwy erthygl ar gyfraith Hywel, sef ‘Llyfr Cynog of Cyfraith Hywel and St Cynog of Brycheiniog’, Cylchgrawn Hanes Cymru, 23, rhif 1 (Mehefin 2006), 27–47, a Llyfr Cynyr ap Cadwgan (Pamffledi Cyfraith Hywel, 2006). Ar ôl bod yn gweithio ar gyfraith Hywel am bum mlynedd penderfynodd Angharad newid cyfeiriad yn llwyr. Fe’i penodwyd yn Swyddog Gweinyddol y Ganolfan ym mis Tachwedd 2007.