Beirdd y Tywysogion

Tîm y Prosiect
Prosiect cyntaf y Ganolfan oedd cynllun uchelgeisiol i olygu holl farddoniaeth Beirdd y Tywysogion a ganai rhwng tua 1100 ac 1282/3 pan fu farw tywysog annibynnol olaf Cymru. Mae’r corff hwn o farddoniaeth yn cynnwys tua 12,600 o linellau anodd iawn ar brydiau, ac mae’n taflu goleuni newydd ar gefndir hanesyddol a chymdeithasol y ddeuddegfed a’r drydedd ganrif ar ddeg, yn ogystal â chynnig cyfoeth o wybodaeth inni am ddatblygiad yr iaith Gymraeg a’i llenyddiaeth yn y cyfnod canol.
Mae’r gwaith sylweddol hwn wedi ei gyhoeddi mewn saith cyfrol dan olygyddiaeth yr Athro R. Geraint Gruffydd, Cyfarwyddwr cyntaf y Ganolfan fel sefydliad Prifysgol. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Dr Ann Parry Owen.
Yn y llun gwelir (o’r chwith i’r dde) Y Diweddar Athro J. E. Caerwyn Williams, Yr Athro Emeritws R. Geraint Gruffydd, Dr Ann Parry Owen, Y Chwaer Nora Costigan (Bosco), a Dr Rhiannon Ifans.
Adnoddau ychwanegol
Rhestr o'r Beirdd
Mynegai i linell gyntaf pob cerdd