Gwydr Lliw yng Nghymru
Ceir nifer sylweddol o ffenestri lliw drwy Gymru benbaladr. Mae rhai i’w cael yn y mwyafrif o ardaloedd, mewn eglwysi gan amlaf ond mewn rhai capeli yn ogystal. Fe’u hystyrir yn drysorau gan rai cymunedau a chynulleidfaoedd lleol, ond prin yn aml yw’r wybodaeth amdanynt o safbwynt hanes celf a diwinyddiaeth.
Er bod pobl yn ymwybodol o bwysigrwydd gwydr canoloesol, tueddir i anwybyddu gwydr modern oherwydd i gymaint ohono gael ei gynhyrchu yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac wedi hynny. Mae gwaith o’r fath yn werthfawr iawn er mwyn deall y drefn nawdd leol a hanes crefydd, ac mae hefyd yn cyfoethogi ein dealltwriaeth o ddiwylliant gweledol y cyfnod ac o swyddogaeth artistiaid, penseiri a dylunwyr yn y gwaith o addurno eglwysi.
Catrin Jones, Cyfarchiad Gabriel a'r Teulu Sanctaidd, 1983, manylyn, Eglwys Priordy Dewi Sant, Abertawe. Llun: Martin Crampin
Yn ystod ail hanner yr ugeinfed ganrif mae Cymru wedi bod yn flaenllaw yn y gwaith o gynhyrchu gwydr lliw, yn bennaf o ganlyniad i sefydlu’r Adran GwydrPensaernïol ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe.
Enillwyd clod rhyngwladol gan lawer o fyfyrwyr yr Adran hon. Deil rhai ohonynt i weithio yng Nghymru, ac mae eu gwaith i’w weld mewn mannau addoli ac mewn mathau eraill o adeiladau cyhoeddus.
Gan adeiladu ar brosiect ymchwil yr AHRC ‘Delweddu’r Beibl yng Nghymru’, a weithredwyd ar y cyd â Phrifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan (Y Drindod Dewi Sant erbyn hyn), cafodd cronfa ddata ar-lein o wydr lliw yng Nghymru ei datblygu a'i hysgrifennu gan Martin Crampin. Fel rhan o'r prosiect, tynnodd luniau cannoedd o ffenestri lliw ac mae'r ffotograffau hynny bellach wedi eu cynnwys yng nghronfa ddata 'Delweddu'r Beibl yng Nghymru': http://imagingthebible.llgc.org.uk
Theodore Baily, Tröedigaeth Sant Illtyd, c.1925, Eglwys Priordy y Santes Fair a Sant Illtyd, Ynys Bŷr. Llun: Martin Crampin
Drwy gydweithio â’r ymgynghorydd Nigel Callaghan o Technoleg Taliesin, cafodd y gronfa ddata ei thrawsnewid i fod yn un a allai ddal casgliadau lluosog o ddeunydd y gellid eu cyhoeddi fel gwefannau ar wahân. Gall y gwefannau hyn hefyd rannu deunydd cyffredin fel bywgraffiadau artistiaid a gweithiau celf sy’n berthnasol i ragor nag un casgliad. Hwylusodd hyn y dasg o greu catalog ar-lein newydd o Wydr Lliw yng Nghymru: http://stainedglass.llgc.org.uk.
Tynnwyd lluniau o gannoedd o ffenestri ymhellach a’u catalogio gan ychwanegu at y gronfa ddata a fodolai eisoes, a hynny gyda chymorth Cronfa Diwydiannau Cymreig Prifysgol Cymru, Sefydliad Weston a’r Friends of Friendless Churches. Mae’r catalog newydd yn ehangu cwmpas y deunydd i gynnwys gwrthrychau nad ydynt yn rhai beiblaidd fel seintiau Cymreig a gweithiau haniaethol yn ogystal â gwydr canoloesol o Gymru ar y naill law a gwaith cyfoes ar y llall. Nid oedd y rhain yn cael eu cynnwys o fewn dyddiadau prosiect blaenorol yr AHRC, sef 1825–1975. Mae’r ddwy wefan wedi elwa hefyd o waith ymchwil newydd gan Martin Crampin sydd wedi llwyddo i ddyddio gwydr lliw ar hyd y wlad a’i briodoli i artistiaid penodol, ac yn cynnwys gwybodaeth bellach am y gwneuthurwyr a fu’n gyfrifol am y toreth o wydr lliw sydd yng Nghymru.
Lansiwyd Catalog Gwydr Lliw yng Nghymru ym Mehefin 2011 mewn fforwm undydd ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe ac yn Eglwys y Santes Fair yn y ddinas. Er i’r prosiect ddod i ben yn swyddogol ym mis Hydref 2011, mae’r catalog yn parhau i dyfu a chroesewir sylwadau a deunydd newydd i sicrhau y bydd hyn yn dal i ddigwydd yn y dyfodol.