Disgrifiad Llawn
Craidd ‘Prosiect Guto’r Glyn’ fydd golygiad newydd o farddoniaeth y bardd athrylithgar hwn. Byddwn yn ceisio ail-lunio, hyd y gallwn, destunau gwreiddiol ei gerddi, gan ystyried o’r newydd dystiolaeth y llawysgrifau a chan roi ystyriaeth arbennig i’r llawysgrifau cynharaf.
Er cyhoeddi Gwaith Guto’r Glyn gan Ifor Williams ym 1939, golygiad a oedd yn seiliedig ar waith blaenorol John Llywelyn Williams, daeth nifer ychwanegol (30 y cant) o lawysgrifau i’r fei. Y mae’r corpws yn cynnwys oddeutu 6,500 o linellau o farddoniaeth mewn tua 150 o gerddi mewn tua 2,350 o gopïau llawysgrif. Er 1939 hefyd gwnaed llawer o waith ar destunau Cymraeg yr Oesoedd Canol yn gyffredinol – mireiniwyd dulliau golygu a chyhoeddwyd golygiad cyntaf Geiriadur Prifysgol Cymru yn ogystal â llawer o ymdriniaethau ar eirfa a gramadeg Cymraeg Canol. At hynny, y mae’r gwaith diweddar ar farddoniaeth Dafydd ap Gwilym (http://www.dafyddapgwilym.net ), ac yn arbennig ar y llawysgrifau, wedi dysgu llawer i ni am drosglwyddiad cerddi, a sut fath o newidiadau a oedd yn nodweddu trosglwyddiad llafar neu ysgrifenedig. Y mae’n hen bryd, felly, ailystyried cerddi Guto’r Glyn yng ngoleuni’r datblygiadau hyn.
Y mae’r elfen ddynol a hoffus iawn a glywir yng ngwaith Guto yn apelio at gynulleidfa hyd heddiw. Lle’r oedd nifer o’i gyfoeswyr yn gallu bod braidd yn gaeth i fformwla wrth foli eu noddwyr, y mae ei gerddi ef yn wahanol, gan ei fod yn barod i sôn am ei brofiadau personol yn ei berthynas â’i noddwyr neu hyd yn oed i’w rhybuddio neu i’w ceryddu ar brydiau, os teimlai fod angen hynny. At hynny, yr oedd Guto yn feistr ar ei grefft ac yn gynganeddwr cwbl naturiol. Gan fod y mwyafrif o’i gerddi yn darllen mor rhwydd, y mae’n hawdd anghofio pa mor grefftus ydynt.
Yn ail ran y prosiect edrychir ar fywyd yng Nghymru yn y bymthegfed ganrif, gan ddefnyddio tystiolaeth cerddi Guto’r Glyn fel man cychwyn. Cafodd yrfa faith iawn ( c .1435– c .1493), yn llawn profiadau amrywiol: bu’n rhyfela yn Ffrainc yn ystod blynyddoedd olaf y Rhyfel Can Mlynedd ac yn ystod Rhyfel y Rhosynnau bu’n gefnogwr brwd i blaid Iorc. Yr oedd ganddo farn bendant ac nid oedd yn swil o fynegi’r farn honno yn ei gerddi. Ymwelodd hefyd â nifer o gartrefi ar draws y deyrnas – sy’n golygu ei fod yn fardd cenedlaethol yn wir. Rhydd ei ddisgrifiadau o’r croeso a gâi yn y cartrefi hyn gipolwg gwerthfawr i ni ar fywydau uchelwyr yng Nghymru’r bymthegfed ganrif: dysgwn am eu cartrefi, eu gwleddoedd, y gwinoedd da a brynent, eu dillad a’u meddiannau materol yn gyffredinol.
Ariannwyd y prosiect hwn gan nawdd hael yr AHRC ar y cyd â Phrifysgol Cymru. Fe’i harweinir gan Dr Ann Parry Owen a’i chyd-archwilwyr yw’r Athro Dafydd Johnston, a benodwyd yn ddiweddar yn Gyfarwyddwr y Ganolfan, a Dr Dylan Foster Evans, Prifysgol Caerdydd. Y pedwar cymrawd ymchwil arall yw Dr R. Iestyn Daniel, Dr Barry J. Lewis, Dr Alaw Mai Jones a Mr Eurig Salisbury. Rydym yn ffodus i gael Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn bartneriaid i ni, a byddwn yn cydweithio’n agos ag ysgolheigion ym mhrifysgolion Cymru er mwyn sicrhau bod hwn yn brosiect cydweithredol yng ngwir ystyr y gair.
Am ragor o wybodaeth am y prosiect hwn, cysyllter ag Ann Parry Owen (apo@cymru.ac.uk ).