Cyhoeddiadau

Cyfres : Hanes Cymdeithasol yr Iaith Gymraeg

Iaith Carreg fy Aelwyd': Iaith a Chymuned yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg 

Clawr blaen 'Iaith Carreg fy Aelwyd: Iaith a Chymuned yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg'

Awdur/
Golygydd
Geraint H. Jenkins
 Cyhoeddwyd  1998
 ISBN 0708314627
 Cyhoeddwr Gwasg Prifysgol Cymru / University of Wales Press
 Pris £19.99
 Maint 237 x 154mm
 Fformat Clawr papur/Paperback, xv+427

Hon yw’r drydedd gyfrol mewn cyfres arloesol o astudiaethau ar hanes cymdeithasol yr iaith Gymraeg. Ceir ynddi bedair pennod ar ddeg, wedi eu hysgrifennu gan arbenigwyr cydnabyddedig, ynghyd â llu o fapiau a ffigurau esboniadol. Nod y gyfrol yw egluro’r berthynas gymhleth rhwng iaith a chymuned yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg estynedig. Trafodir tynged yr iaith Gymraeg o fewn cyd-destun Celtaidd a sonnir hefyd am brofiad rhai o ieithoedd canolbarth Ewrop.
 
Y mae fersiwn Saesneg o’r gyfrol hon ar gael yn ogystal: Language and Community in the Nineteenth Century.