Adnoddau
Mae’r set ganlynol o adnoddau’n cael eu datblygu gan Brifysgol Cymru ac ar gael i’w myfyrwyr a’i staff. Lle bo’n briodol, mae adnoddau wedi’u cyfieithu i Arabeg, Tsieinëeg a Sbaeneg.
Llawlyfr Asesu
Mae’r adnoddau canlynol wedi’u cynllunio i’w defnyddio gan staff i gyfoethogi dulliau asesu o fewn rhaglenni astudio.
Mae’r llawlyfr yn cynnig trosolwg o’r canlynol, inter alia:
• Strategaethau asesu
• Dulliau asesu
• Gosod lefelau asesu priodol
• Datblygu meini prawf asesu priodol
• Dulliau marciog
• Rheoli llên-ladrad
• Cefnogi myfyrwyr sydd ag anawsterau dysgu penodol.
Mae hwn yn adnodd allweddol i’r holl staff sy’n ymwneud ag asesu ar raglenni Prifysgol Cymru.
Llawlyfr Asesu
كتيب تقويم منح الدرجات العلمية بنظام المقررات
授课型学历评核手册
Manual de evaluación de la actividad docente
Moeseg Egwyddorion a Chanllawiau ar gyfer Astudiaethau Lefel Israddedig ac Ôl-raddedig trwy Gwrs
Bydd yr adnodd canlynol yn ddefnyddiol i staff a myfyrwyr sy’n dilyn rhaglenni astudio sy’n galw am ystyriaeth o oblygiadau moesegol. Mae’r adnodd yn cynnwys trosolwg o ddisgwyliadau’r Brifysgol o ran sut y dylai canolfannau cydweithredol reoli materion moesegol o fewn amgylchedd academaidd, yn ogystal â gweithdrefnau a awgrymir y gellir eu mabwysiadu gan staff a myfyrwyr i gynnal tryloywder y broses o ystyried materion moesegol.
Llawlyfr Egwyddorion Moesegol a Chanllawiau
Canllawiau Generig ar gyfer Traethodau Hir Rhan Dau Rhaglenni Ôl-raddedig Dilysedig Trwy Gwrs
Mae’r adnodd canlynol ar gael i’r holl fyfyrwyr a staff sy’n ymwneud â Rhan II rhaglen Lefel 7 (MA / MSc / MBA). Fel adnodd generig, mae’r ddogfen yn cynorthwyo myfyrwyr gyda dealltwriaeth o’r hyn sydd ei angen mewn traethawd hir ar raglen Prifysgol Cymru trwy gwrs. Dylid defnyddio’r adnodd ar y cyd â’r llawlyfr rhaglen, sydd ar gael drwy’r ganolfan gydweithredol.
Rhan dau: Canllawiau Generig
第二部分:通用准则
Segunda parte: Directrices generales
Llawlyfr Staff – Myfyrwyr
Mae’r adnodd canlynol wedi’i fwriadu i’w ddefnyddio gan Fyfyrwyr a Staff mewn canolfannau cydweithredol i gyfoethogi ymgysylltu. Mae’r llawlyfr yn cwmpasu nifer o bynciau’n ymwneud â’r canlynol:
• Cyflawni – Ymgysylltu â dysgu, addysgu ac asesu’n effeithiol
• Ymgysylltu – Deall sut mae myfyrwyr a staff yn gallu ymgysylltu i
gefnogi ei gilydd
• Cynnwys – Deall cydraddoldeb ac amrywiaeth ar draws sefydliad
• Trefnu – Datblygu a chefnogi cymdeithasau myfyrwyr
• Deall – Deall addysg uwch y DU a Phrifysgol Cymru.
Mae hwn yn adnodd allweddol i staff a myfyrwyr i gynorthwyo gydag ymgysylltu a chyfoethogi ar draws sefydliadau.
Llawlyfr Staff – Myfyrwyr
Pecyn Cymorth Datblygu Cyflwyno
Mae’r adnodd canlynol wedi’i gynllunio i’w ddefnyddio gan staff i gyfoethogi arferion addysgeg wrth gyflenwi rhaglenni dilysedig dramor. Mae’r pecyn yn cynnig amrywiaeth o destunau, cyflwyniadau i ddulliau penodol, yn ogystal â chwestiynau adfyfyriol i annog staff i ymwneud â chwestiynau allweddol o ran cyflwyno rhaglenni’r DU drwy ddarpariaeth gydweithredol.
Mae’r pecyn yn darparu trosolwg o’r canlynol, inter alia:
• Addysg Uwch yn y DU
• Canfyddiadau, Safbwyntiau a Disgwyliadau Myfyrwyr
• Dadansoddiad o Agweddau at Addysgu
• Y Dosbarth lle mae’r Myfyriwr yn Ganolog
• Ailfeddwl Cyflwyno Modiwlau
• Agweddau at Ddysgu
• Gwreiddio Cyflogadwyedd
• Defnyddio Ymchwil mewn Addysgu
• Datblygiad Proffesiynol Parhaus.
Mae hwn yn adnodd allweddol i’r holl staff addysgu sy’n cyflenwi rhaglenni Prifysgol Cymru
Pecyn Cymorth Datblygu Cyflwyno