Wedi ei bostio ar 13 Mawrth 2013
Dydd Iau 21 Mawrth 2013
Prifysgol Cymru, Casnewydd
Mae’r AAU, ar y cyd â Phrifysgol Cymru, Casnewydd, yn trefnu digwyddiad undydd ar brofiad myfyrwyr ôl-raddedig. Bydd yn cynnig cyfuniad o gyflwyniadau a gweithdai’n canolbwyntio ar y profiad uwchraddedig, a dylai fod o ddiddordeb i’r sawl sydd â diddordeb mewn uchafu profiad myfyrwyr ôl-raddedig.
Bydd sesiwn y bore’n canolbwyntio ar yr hyn y gallwn ni ei ddysgu o Arolwg y Profiad Ymchwil Ôl-raddedig gan gynnwys diweddariad gan yr AAU ar newidiadau allweddol i’r Arolwg a phrosiect yn casglu ymarfer gorau ar y defnydd o’r Arolwg ar gyfer uchafu. Caiff hyn ei ddilyn gan weithdy lle gall cyfranogwyr drafod sut i ddefnyddio’r Arolwg - a ffynonellau eraill o wybodaeth - i gynorthwyo trafodaethau a phenderfyniadau am wella profiad ymchwilwyr ôl-raddedig yn eu sefydliad.
Bydd sesiwn y prynhawn yn cyflwyno canfyddiadau o brosiect ymchwil a gomisiynwyd gan yr AAU ar Drawsnewid i Astudiaethau Ôl-raddedig, a dilynir hyn â thrafodaeth ar anghenion amrywiol myfyrwyr Ôl-raddedig gyda’r ôl-raddedigion eu hunain.
I archebu lle yn y digwyddiad hwn, ebostiwch surveys@heacademy.ac.uk gyda’r wybodaeth ganlynol:
- Eich enw a’ch teitl
- Swydd
- Sefydliad
- Ffôn a chyfeiriad ebost
- Anghenion dietegol
- Gofynion mynediad
Os yw eich sefydliad yn tanysgrifio i’r AAU, mae’r digwyddiad hwn am ddim. Fel arall y gost yw £50.
Ceir rhestr o’r sefydliadau sy’n tanysgrifio i’r AAU yma: http://www.heacademy.ac.uk/subscribing-institutions