Ail gynhadledd arholwyr allanol: Rhannu ymarfer da

Wedi ei bostio ar 26 Hydref 2012

10am, 8 Tachwedd 2012, National Science Learning Centre, Prifysgol Caerefrog

Defnyddir y system arholi allanol gan brifysgolion y DU fel un ffordd i fonitro a sicrhau bod safonau academaidd yn briodol. Yn y cyfnod hwn o newid yn nhirwedd addysg uwch, mae myfyrwyr yn canolbwyntio’n gynyddol  ar werth eu cymwysterau ac felly mae’n arbennig o bwysig sicrhau ansawdd.

Mae’r Academi Addysg Uwch a’r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd yn cynnal cynhadledd ar y cyd ar arholi allanol, gan ailadrodd cynhadledd lwyddiannus 10 Mai 2012. Bydd y gynhadledd yn dosbarthu canllawiau newydd yr ASA i arholwyr allanol o fewn Cod Ansawdd y DU ar gyfer Addysg Uwch, a hefyd llawlyfr arholwyr allanol yr AAU. Bydd cyfranogwyr yn trafod canllawiau newydd yr ASA ac AAU ac yn ystyried yr effaith ar eu hymarfer hwy.

Bydd gweithdai rhyngweithiol yn cwmpasu: 1. Rolau a chyfrifoldebau; 2. Sefydlu a Mentora; 3. Adroddiadau arholwyr allanol - persbectif y myfyriwr; 4. Adroddiadau arholwyr allanol - persbectif y sefydliad.

Cynulleidfa: Academyddion sy’n brofiadol, newydd eu penodi ac am fod yn arholwyr allanol; academyddion eraill sy’n ymwneud â’r broses arholi allanol; personél datblygu staff sy’n ymwneud â hyfforddi arholwyr allanol.

Does dim tâl am ddod i’r digwyddiad. I holi am le ar y digwyddiad ebostiwch; externalevents@heacademy.ac.uk

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori

In: Newyddion a Digwyddiadau