Cynhadledd Ymarfer Ymchwil-Addysgu yng Nghymru 2013: Adnoddau

Wedi ei bostio ar 14 Tachwedd 2013

Cynhaliodd Prifysgol Cymru’r Gynhadledd Ymarfer Ymchwil-Addysgu yng Nghymru 2013 yn Neuadd Gregynog ar 9-10 Medi 2013 a gynullwyd gan yr Athro Simon Haslett, Dirprwy Is-Ganghellor Cynorthwyol ym Mhrifysgol Cymru.

Roedd y Gynhadledd yn cyfrannu at fenter cyfoethogi sefydliadol y Brifysgol, Cyfeiriadau’r Dyfodol - Graddedigion ar gyfer ein Dyfodol, gyda chefnogaeth yr Academi Addysg Uwch, ac a drefnwyd ar y cyd â’r Set Gweithredu Plethwaith Ymchwil-Addysgu. Mae adnoddau o’r Gynhadledd ar gael nawr ar Flog y Set Gweithredu.

Roedd cynrychiolwyr o sefydliadau yng Nghymru, canolfannau cydweithredol Prifysgol Cymru a chydweithwyr o brifysgolion yn Lloegr yn bresennol ac yn cyflwyno yn y Gynhadledd.

Casglwyd adnoddau yn y Gynhadledd ac ar gyfer pob cyflwynydd mae tudalen blog wedi’i llunio sydd, fel isafswm, yn cynnwys sleidlediad (Powerpoint a sain wedi’u cyd-osod), crynodeb a ffotograff o’r cyflwynydd/wyr. Mae adnoddau eraill, megis fideo a dogfennau hefyd ar gael gyda rhai cyflwyniadau. Mae’r blog yn caniatáu i sylwadau gael eu postio i annog trafodaeth.

Dydd Llun 9 Medi 2013

Ymarfer Ymchwil-Addysgu yng Nghymru 2013 - Croeso
Simon Haslett (Prifysgol Cymru)

Sesiwn Un: Polisi a Strategaeth
Status quo vadis? An assessment of the relationship between science, education and policy implementation.
Christopher House (Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant), Gavin Bunting (Prifysgol Cymru) a Stephen Hole (Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant)

Developing students as researchers within College-based Higher Education.
Jonathan Eaton (Coleg Newcastle)

Prif Weithdy
Rethinking the dissertation: avoiding throwing the baby out with the bathwater.
Mick Healey (Prifysgol Swydd Gaerloyw)

Dydd Mawrth 10 Medi 2013

Sesiwn Dau: Addysgu yn sgil Ymchwil
Bridging the theory practice gap. How to effectively integrate guest/visiting lecturers into HEI provision.
Gavin Bunting (Prifysgol Cymru) a Christopher House (Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant)

It’s time to ‘Face’ the truth. Is Facebook’s Survey Monkey a legitimate research and pedagogical tool?
Stephen Hole a Christopher House (Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant), a Gavin Bunting (Prifysgol Cymru)

Sesiwn Tri: Cyswllt Myfyrwyr gydag Ymchwil yn y Cwricwlwm
The Thought Experiment: nurturing research strategies for Masters students in Art and Design.
Howard Riley a Paul Jeff (Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant)

Working with international students as co-researchers: towards and inclusive educational community.
Julie Wintrup a Kelly Wakefield (Prifysgolf Southampton)

A broader view of undergraduate research opportunity programmes: collaborative culture and curriculum development.
Nathan Roberts a Iain Mossman (Prifysgol Caerdydd)

Sesiwn Adborth
Darparwyd adborth gan gynrychiolwyr ar y gynhadledd, sydd ar gael yma

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori

In: Newyddion a Digwyddiadau