Adroddiad: Digwyddiad Sefydlu Safonwyr

Wedi ei bostio ar 5 Tachwedd 2012

Fel rhan o ymrwymiad y Brifysgol i hwyluso datblygiad parhaus ar draws ein Canolfannau Cydweithredol yn ystod y cyfnod ymadael, ac i sicrhau bod ansawdd a safonau’n cael eu cynnal, cynhaliwyd digwyddiad sefydlu i Safonwyr newydd a pharhaus yng Ngwesty Parc Thistle yng Nghaerdydd ar 3 a 4 Hydref 2012. Roedd y digwyddiad yn canolbwyntio’n bennaf ar Reoliadau Academaidd diwygiedig y Brifysgol, ynghyd â llawlyfrau Safonwyr newydd, yn ogystal â chynnig cyfle i Safonwyr a staff gyfranogi mewn gweithdai a rhannu profiadau ac ymarfer da.

Digwyddiad difyr ac addysgiadol - roedd yn dda cyfarfod â mentoriaid profiadol yn ogystal â recriwtiaid newydd."

Daeth nifer dda i’r digwyddiad ac mae adborth oddi wrth gynrychiolwyr wedi bod yn gadarnhaol ac adeiladol. Roedd y safonwyr i’w gweld yn gwerthfawrogi’r cyfle i gyfarfod â chyd-Safonwyr a staff Prifysgol Cymru i drafod y datblygiadau newydd a newidiadau i’r trefniadau.

Roedd y digwyddiad yn hynod o addysgiadol a defnyddiol, yn enwedig i Safonwyr newydd. Roedd y cyswllt personol â Safonwyr, Academyddion ar Gofrestrfan bwysig - roedd rhannu gwybodaeth yn ddefnyddiol."

Rydym ni’n bwriadu trefnu ail ddigwyddiad y tymor hwn i’r rheini nad oedd modd iddynt ddod ym mis Hydref, a bydd manylion ar gael ar y wefan yn fuan, yn ogystal â digwyddiad undydd dilynol i’r holl Safonwyr yn gynnar yn 2013.

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am y digwyddiadau sefydlu arfaethedig yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â events@cymru.ac.uk

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori

In: Newyddion a Digwyddiadau