Wedi ei bostio ar 19 Chwefror 2013
- Dyddiad: 14 Mawrth 2013 - 15 Mawrth 2013
- Amser dechrau: 01:00 pm
- Lleoliad: Holiday Inn, Stryd y Castell, Caerdydd, CF10 1XD
Mae'r gweithdai hyn yn gweddu'n berffaith i gydweithwyr sydd yn eu dwy flynedd gyntaf o addysgu mewn AU, y rhai sy'n gweithio at PhD ac sydd ag ymrwymiadau addysgu a'r rhai sy'n ystyried ymgeisio am Gymrodoriaeth yr AUA. Dyma'ch cyfle i gyfarfod â chydweithwyr o sefydliadau eraill sydd hefyd yn newydd i addysgu yn y disgyblaethau hyn - i rannu eich profiadau a dysgu oddi wrth eich gilydd.
Mae'r gweithdy wedi'i gynllunio i gynorthwyo cydweithwyr ar draws y gwyddorau cymdeithasol. Fodd bynnag caiff y sesiynau eu hwyluso gan arweinwyr disgyblaeth Cymdeithaseg ac Addysg ac felly mae'n bosibl y byddant yn gweddu'n benodol i gydweithwyr yn y meysydd hyn a rhai cysylltiedig.
Bydd digon o gyfleoedd i rwydweithio a thrafod y materion y byddwch chi'n eu codi, ond bydd y digwyddiadau wedi'u strwythuro o gwmpas nifer o gyfraniadau a gweithgareddau. Caiff y rhain eu harwain gan ddarlithwyr profiadol.
Ymhlith y pynciau a drafodir fydd:
• profiadau athro newydd
• nodweddion athro AU 'da'
• cydbwyso dyletswyddau academaidd - addysgu, ymchwil, gweinyddu, arwain
• y Gwyddorau Cymdeithasol mewn AU heddiw
• defnydd effeithiol o dechnoleg
• datblygu cwricwlwm
• agweddau at asesu ac adborth
• Fframwaith Safonau Proffesiynol y DU a Chymrodoriaeth yr AAU
Caiff rhaglen fanylach ei gosod ar y wefan hon yn fuan, ond mae'r ddolen at ein blog (gweler adran dogfennau cysylltiedig ar y dudalen hon) yn amlinellu'r gweithgareddau yn y digwyddiadau a gynhaliwyd y llynedd.
I gydweithwyr o sefydliadau sy'n tanysgrifio * i'r AAU nid oes tâl am ddod i'r gweithdy (gan gynnwys cinio a chinio nos) ond ceir cost o £79.00 (yn daladwy i'r AAU) am lety a brecwast yn lleoliad y gynhadledd.
i gynrychiolwyr o sefydliadau nad ydynt yn tanysgrifio ceir tâl o £150.00 am ddod i'r digwyddiad (gan gynnwys cinio a chinio nos) chost o £79.00 (yn daladwy i'r AAU) am lety a brecwast yn lleoliad y gynhadledd.
Gallwch wirio a ydych chi'n perthyn i sefydliad sy'n tanysgrifio drwy ddilyn y ddolen hon: www.heacademy.ac.uk/subscribing-institutions Os nad ydych chi'n siŵr ebostiwch externalevents@heacademy.ac.uk
I archebu eich lle cwblhewch y ffurflen archebu ar y dudalen hon a'i ebostio i; externalevents@heacademy.ac.uk
Mae'n bosibl y bydd cynrychiolwyr yn gymwys am gymorth gyda chostau teithio drwy Gronfa Deithio'r DU
Ebost cyswllt ymholiadau (nid archebu)
Helen Jones: Helen.Jones@heacademy.ac.uk