Wedi ei bostio ar 1 Hydref 2012
Mae Prifysgol Cymru’n falch i gyhoeddi y cynhelir y Digwyddiad Sefydlu Safonwyr ddydd Mercher a dydd Iau 3 a 4 Hydref 2012 yng Ngwesty’r Parc Thistle yng Nghaerdydd.
Fel rhan o’n hymrwymiad i hwyluso datblygiad parhaus ar draws ein Canolfannau Cydweithredol yn ystod y cyfnod ymadael, a sicrhau bod safonau ansawdd yn cael eu cwrdd, nod y digwyddiad hwn yw cynnig cyfleoedd i holl Safonwyr Prifysgol Cymru ddysgu am ddatblygiadau newydd, cyfranogi mewn gweithdai adeiladol a rhannu profiadau ac ymarfer da.
Rydym yn disgwyl y bydd y digwyddiad yn cynnwys nifer o gyflwyniadau, gan safonwyr profiadol a staff allanol arall sydd â phrofiad penodol fel archwilwyr ASA y ddarpariaeth gydweithredol. Mae hwn yn ddigwyddiad pwysig, a fydd yn canolbwyntio'n bennaf ar Reoliadau newydd y Brifysgol, ynghyd â llawlyfrau Safonwyr sydd wedi'u datblygu'n ddiweddar.