Wedi ei bostio ar 3 Rhagfyr 2013
Mae Y byd tu hwnt i 2015 – Ydi Addysg Uwch yn barod? yn ymgyrch sy’n cael ei rhedeg gan Gymdeithas Prifysgolion y Gymanwlad sy’n anelu at godi ymwybyddiaeth o sut y gall ac y dylai Addysg Uwch ymateb i heriau datblygu byd-eang cyn i Nodau Datblygu’r Mileniwm ddod i ben yn 2015.
Mae’r ymgyrch yn rhoi llwyfan ryngwladol i leisiau amrywiol o fewn a’r tu allan i’r sector prifysgol ac mae eisoes yn adeiladu cronfa dystiolaeth sy’n dangos pam y mae addysg uwch yn bwysig, gydag enghreifftiau o sut y mae prifysgolion yn cael effaith ar y gymdeithas ehangach.
Wedi ei strwythuro o amgylch chwe chwestiwn allweddol, mae’r ymgyrch eisoes wedi derbyn barn mewn sawl fformat amrywiol o bedwar ban byd.
Mae Prifysgol Cymru’n aelod gweithredol o’r ACU ac yn annog cydweithwyr a myfyrwyr i bori trwy’r erthyglau a fideos cyfredol, cynnig sylwadau arnynt ac ystyried cyflwyno eich cyfraniad eich hun.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Cymdeithas Prifysgolion y Gymanwlad - https://beyond2015.acu.ac.uk/