STEM AAU: Arloesi wrth addysgu ac asesu dosbarthiadau mawr

Wedi ei bostio ar 2 Ionawr 2014

Ar 15 Ionawr mae’r AcademiAddysg Uwch wedi trefnu gweithdy i archwilio dulliau newydd arloesol o addysgua dysgu grwpiau mawr yn y disgyblaethau STEM fel rhan o’u cyfres gweithdai aseminarau STEM 2013-14.

Mae addysg uwch fodern yn targedu niferoedd cynyddol ofyfyrwyr o amrywiaeth eang o gefndiroedd, felly rhaid i ni gofleidio arloesi ermwyn parhau i ddenu, ysbrydoli ac addysgu.

Cynhelir y gweithdy yn Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor acfe’i  trefnir gan Dr Fay Short,Uwch-ddarlithydd mewn Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor a Chymrawd AddysguCenedlaethol AAU (2013) a’i nod yw rhoi cyfle i gynrychiolwyr sicrhaugwybodaeth a gwella sgiliau yn y meysydd canlynol:

  • Gwell dealltwriaeth o’r materion sy’n ymwneud ag asesu ac addysgu grwpiau mawr yn effeithiol yn eu disgyblaeth a’u sefydliad eu hunain (ymarfer adfyfyriol)
  • Gwybodaeth am ddulliau addysgol arloesol sy’n cael eu defnyddio’n effeithiol ar hyn o bryd ar draws y sector (rhannu ymchwil ac ymarfer)
  • Datblygu sgiliau cynllunio a defnyddio strategaethau effeithiol ar gyfer asesu ac addysgu niferoedd uchel o fyfyrwyr (adeiladu arbenigedd)

Y bwriad yw i gynrychiolwyr ddychwelyd at eu sefydliadau euhunain gyda chynllun gweithredu ar gyfer rhoi strategaethau ar waith i addysguac asesu dosbarthiadau mawr.

Mae’r gweithdy ar gael am ddim i gynrychiolwyr o sefydliadausy’n tanysgrifio a rhai eraill ond rhaid archebu i sicrhau eich lle gan fod yniferoedd yn gyfyngedig.

I gael rhagor o wybodaeth, ac archebu lle ewch i wefan AAU - http://www.heacademy.ac.uk/events/detail/2014/15-Jan-innovative-large-classes-Bangor

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori

In: Newyddion a Digwyddiadau