Wedi ei bostio ar 9 Tachwedd 2012
Cyfres Seminarau/Gwebinar Ymchwil yr AAU: Effaith y dirwedd AU symudol yn y DU ar ddysgu ac addysgu
15 Tachwedd 2012, 12.00 i 13.45
Swyddfeydd AAU yng Nghaerefrog neu ffrydio ar lein am ddim
Crynodeb o’r cyflwyniad
‘Er bod llawer o drafod wedi bod ar effaith bosibl diwygiadau addysg uwch y Llywodraeth ar gyllid, myfyrwyr, ehangu mynediad a ffurfweddu sefydliadol, ychydig o drafodaeth fu hyd yma ar y goblygiadau ar gyfer dysgu’r myfyrwyr. Nod y seminar hwn yw dechrau llenwi’r bwlch hwn. Byddaf yn dadlau mai diwygiadau’r Papur Gwyn yw’r diweddaraf, ond hefyd o bosibl y mwyaf radical, mewn cyfres o newidiadau seiliedig ar y farchnad sy’n mynd yn ôl i’r 1980au cynnar. Byddaf yn adolygu’r hyn a wyddom am effeithiau’r newidiadau hyn ar ansawdd addysg myfyrwyr. Yn olaf byddaf yn amlygu rhai o’r materion sydd bellach yn codi i unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu ansawdd uchel gan fyfyrwyr.’
I gael rhagor o fanylion ewch i www.heacademy.ac.uk/events/detail/2012/academyevents/15_Nov_Webinar.