Wedi ei bostio ar 18 Hydref 2013
Mae’n bleser mawr gennym gyhoeddi y bydd ail gynhadledd Cyfeiriadau’r Dyfodol yn cael ei chynnal ar 2-3 Ebrill yng Prifysgol Aberystwyth. Bydd y gynhadledd yn rhoi llwyfan i unigolion a grwpiau sy’n gweithio i wella profiad dysgu’r myfyriwr a bydd yn cynnwys cyfres o brif ddarlithiau a sesiynau papur, poster a gweithdy yn y meysydd canlynol:
Graddedigion nodedig
Addysgu ysbrydoledig
Dysgu ar gyfer cyflogaeth
Teithiau dysgwyr
Myfyrwyr fel partneriaid
Mae Cyfeiriadau’r Dyfodol yn cwmpasu’r gwaith gwella ansawdd sy’n cael ei wneud yn sector addysg uwch Cymru, sydd â’r nod o wella agweddau penodol ar brofiad dysgu’r myfyriwr drwy annog staff a myfyrwyr i ddod at ei gilydd i rannu arfer da cyfoes a chynhyrchu syniadau a modelau ar gyfer dysgu ac addysgu arloesol.
Bydd manylion llawn y gynhadledd ar gael cyn bo hir.
Gellir cael gwybodaeth bellach am y rhaglen Cyfeiriadau’r Dyfodol yn: http://www.heacademy.ac.uk/wales/future-directions-conference