Wedi ei bostio ar 31 Ionawr 2014
Mae’n bleser gennym gyhoeddi fod cofrestru bellach ar agor ar gyfer ail Gynhadledd Cyfeiriadau’r Dyfodol Graddedigion Byd-eang: Galluogi Dysgu Hyblyg. Cynhelir y digwyddiad ym Mhrifysgol Aberystwyth ar 2-3 Ebrill 2014.
’Rydym wedi cadarnhau’r canlynol fel siaradwyr allweddol: yr Athro Ron Barnett, Athro Emeritws mewn Addysg Uwch yn Sefydliad Addysg, Prifysgol Llundain, a’r Athro Shan Wareing, Pro Is-Ganghellor Dysgu ac Addysgu ym Mhrifysgol Newydd Swydd Buckingham.
Mae rhaglen Cyfeiriadau’r Dyfodol yn ymagweddiad cydweithredol tuag at wella ansawdd yn y sector addysg uwch yng Nghymru. Mae’r gynhadledd yn rhan ogyfres o gynadleddau dysgu ac addysgu a gynhelir bob dwy flynedd sy’n dwyn sylwat arferion blaengar ledled Cymru a thu hwnt.
Iganfod mwy ac i drefnu eich lle yn y digwyddiad cyffrous hwn, ewch i: www.heacademy.ac.uk/wales/future-directions-conference/2014-venue-and-booking