Athro PC i gymryd rhan yng nghyfres Seminarau Ymchwil a Pholisi AAU

Wedi ei bostio ar 13 Mai 2013
Simon-Books

Ym mis Mehefin, bydd yr Athro Simon Haslett, Dirprwy Is-Ganghellor Cyswllt Prifysgol Cymru, yn cyflwyno seminar fel rhan o gyfres Ymchwil/Webinar yr Academi Addysg Uwch (AAU). Lansiwyd y gyfres ym mis Tachwedd 2012, ac mae wedi denu nifer o academyddion a siaradwyr gwadd uchel eu proffil.

Bydd seminar yr Athro Haslett, Exploring Links between Research and Teaching in Higher Education, yn edrych ar y ffyrdd y gellir cysylltu ymchwil ac addysgu mewn ymarfer academaidd mewn Addysg Uwch. Bydd yn ceisio olrhain y gwahanol gysylltiadau drwy ysgolheictod, ymchwil (yn seiliedig ar bwnc ac addysgeg) a’r cwricwlwm.

Cyn ymgymryd â'i swydd gyfredol ym Mhrifysgol Cymru, roedd yr Athro Haslett yn Bennaeth yr Adran Daearyddiaeth a Phennaeth Cynorthwyol yr Ysgol Gwyddoniaeth a'r Amgylchedd ym Mhrifysgol Bath Spa, ac yn fwyaf diweddar yn Gyfarwyddwr Canolfan Rhagoriaeth Dysgu ac Addysgu Prifysgol Cymru, Casnewydd.  Ar hyn o bryd mae’n Athro Ymweliadol mewn Ymchwil Addysgeg ym Mhrifysgol De Cymru, a hefyd ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe Cymru: y Drindod Dewi Sant.

Drwy gydol ei yrfa addysgu mae wedi dysgu ar raglenni israddedig ac ôl-raddedig mewn Daearyddiaeth, y Gwyddorau Daear ac Amgylcheddol. Dyfarnwyd iddo Ysgoloriaeth Fulbright i ymgymryd ag ymchwil yn Sefydliad Eigioneg Scripps ym Mhrifysgol Califfornia, San Diego ac mae wedi’i ethol yn Gymrawd y Gymdeithas Ddaearyddiaeth Frenhinol, Cymdeithas Ddaearegol Llundain a Chymdeithas Frenhinol y Celfyddydau.

Bydd yr Athro Haslett yn tynnu ar ei brofiadau diweddar fel arweinydd dysgu ac addysgu yng Nghymru yn y seminar, gan gynnwys gweithgaredd a chyfraniad y Set Gweithredu Plethwaith Ymchwil-Addysgu, a’r heriau cyfredol i greu a chynnal cysylltiadau ymchwil-addysgu mewn Addysg Uwch. Bydd yn cynnig enghreifftiau o gysylltiadau ymchwil-addysgu yn ei ymarfer proffesiynol ei hun.

Wrth son am ei ddiddordeb ym mhwnc ei gyflwyniad, dywedodd yr Athro Haslett:

“Rwyf i’n ymrwymo i gryfhau’r cysylltiadau rhwng ymchwil ac addysgu mewn prifysgolion. Mae Addysg Uwch yn arbennig drwy gynnwys ymchwil, fel y gall myfyrwyr ddysgu ar lefel flaenaf gwybodaeth drwy ddefnyddio sgiliau ymchwil fydd yn eu harfogi’n dda yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol.”

Cynhelir y digwyddiad ar 11 Mehefin yn swyddfeydd yr AAU yng Nghaerefrog. Bydd pobl yn gallu dod yno neu ymuno arlein oherwydd bydd y sesiwn yn cael ei darlledu’n fyw ar wefan AAU. Gyda’r digwyddiad yn dechrau am 12:00, bydd y seminar/webinar yn dechrau am 12:45.

Mae’r digwyddiad am ddim, a gellir archebu nawr. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’r dudalen digwyddiadau ar wefan AAU - http://www.heacademy.ac.uk/events/detail/2013/11_June_research_seminar

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori

In: Newyddion a Digwyddiadau