Arolwg Myfyrwyr 2012/13 – mae'r canlyniadau wedi cyrraedd

Wedi ei bostio ar 27 Ionawr 2014

Ar ôl derbyn canlyniadau Arolwg Myfyrwyr 2012/13 rydym ni’n hynod o falch i adrodd fod Prifysgol Cymru wedi derbyn adborth cadarnhaol iawn ar bob agwedd o’r sefydliad.

Roedd arolwg myfyrwyr Prifysgol Cymru’n targedu myfyrwyr sydd wedi’u cofrestru ar raglenni gradd Prifysgol Cymru yn ei Chanolfannau Cydweithredol. Mae wedi’i gynllunio i gynnig cyfle i fyfyrwyr ar draws y byd leisio eu barn ar faterion yn amrywio o addysgu i gymorth academaidd.

Ymatebodd y myfyrwyr a gyfranogodd yn yr arolwg yn gadarnhaol i wahanol ddatganiadau am wasanaethau’r Brifysgol, a fesurwyd drwy atebion amlddewis -gyda’r mwyafrif o ymatebion yn amrywio o ‘Cytuno’ i ‘Cytuno’n Gryf’.

Ymhlith yr ystadegau mwy nodedig, roeddmyfyrwyr yn nodi  bod rhaglenni dilysedig Prifysgol Cymru’n ‘heriol yn ddeallusol’ ac roedd dros 75% o fyfyrwyr cydweithredol a ymatebodd i’rarolwg yn cytuno’ neu’n ‘cytuno’n gryf’ fod eu hathrawon yn ‘esbonio pethau’ndda’, ‘yn frwdfrydig am eu haddysgu’ ac ‘yn gwneud y pwnc yn ddiddorol’. Roeddyn agos i 80% yn cydnabod iddyn nhw gofrestru ar eu rhaglen oherwydd ei bod yn arwain at radd Prifysgol Cymru a’u bod yn credu y byddai gradd Prifysgol Cymruo fantais iddyn nhw.

Wrth ateb cwestiynau yn adran datblygiad personol yr holiadur, ar gyfartaledd roedd 67%yn cytuno’ neu’n ‘cytuno’n gryf’ fod eu rhaglenni’n eu helpu i gyflwyno euhunain yn hyderus, yn eu helpu i wella eu cyfathrebu ac yn rhoi ‘hyder wrthfynd i’r afael â phroblemau anghyfarwydd’.

Yn yr Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol, mae asesu ac adborth yn feysydd sy’nsiomi myfyrwyr mewn nifer o brifysgolion ond roedd dros 70% o fyfyrwyr cydweithredol Prifysgol Cymru yn dweud bod y meini prawf asesu wedi euhesbonio’n glir iddyn nhw o flaen llaw, ac roedd dros 60% yn cytuno’ neu’n‘cytuno’n gryf’ eu bod yn derbyn adborth prydlon a manwl ar eu gwaith.

Mae’r codau ansawdd dysgu myfyrwyr ac ymgysylltu â myfyrwyr a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan yr ASA yn pwysleisio pwysigrwydd diwylliant o gymorth i fyfyrwyr ar draws ysefydliad. Yn gyffredinol, roedd myfyrwyr cydweithredol Prifysgol Cymru a ymatebodd i’r arolwg yn rhoi gwerth mawr ar yr agwedd hon o’u profiad gydathros 60% yn ‘cytuno’n gryf’ neu’n ‘cytuno’ eu bod yn derbyn cyngor da ar wneud dewisiadau astudio a’u bod yn gallu cysylltu â staff yn y canolfannau cydweithredol pan oedd angen iddynt wneud gyda thros 70% yn adrodd eu bod ynderbyn digon o gymorth a chyngor gan eu sefydliadau.

Mae’r wybodaeth a gesglir o’r Arolwg Myfyrwyr yn hynod o werthfawr i’r Brifysgol. Yn ogystal â bod yn fesur pwysig o berfformiad y Brifysgol mewn nifer o feysydd allweddol,mae’n hynod o ddefnyddiol wrth weithio gyda’n Canolfannau Cydweithredol i godi ansawdd Profiad Dysgu’r Myfyriwr.

Diolch i’r holl fyfyrwyr a gymerodd ran.

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori

In: Newyddion a Digwyddiadau