Sicrhau gwaddol i genedlaethau'r dyfodol

Wedi ei bostio ar 9 Chwefror 2017
UWRET

Mr Alun Thomas (Cadeirydd Cyngor Prifysgol Cymru), Mrs Margaret Evans (Is-Gadeirydd Cyngor Prifysgol Cymru), Mr Dick Roberts (Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth) a Yr Athro Medwin Hughes (Is-Ganghellor)

Ym mis Awst 2015, cyhoeddodd Prifysgol Cymru greu Ymddiriedolaeth Gwaddolion Cyfyngedig PC (UWRET), ymddiriedolaeth elusennol annibynnol a sefydlwyd fel rhan o Adduned Cymru i reoli’r rhoddion a’r cymynroddion niferus a dderbyniwyd gan y Brifysgol, a diogelu eu gwaddol i genedlaethau’r dyfodol.

Mae’r ‘gwaddolion cyfyngedig’ hyn, a roddwyd dros flynyddoedd lawer at ddibenion penodol neu i gefnogi mathau arbennig o fuddiolwyr, wedi’u dal gan y Brifysgol fel ymddiriedolwr, ac ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2015/16, roedd cyfanswm eu gwerth o ddeutu £5.8 miliwn.

Mae’r rhoddion hyn yn cynnig cymorth ariannol i ddarpar fyfyrwyr, myfyrwyr cyfredol a Graddedigion, yn ogystal â chydnabod ac amlygu gwaith y pennir ei fod o’r safon uchaf, gan gwmpasu amrywiaeth eang o bynciau o ymchwil a theithio i gerddoriaeth.

Mae ysgoloriaethau fel Gwobr Goffa Vernam Hull a Gwobr Goffa Syr Ellis Griffith yn cydnabod ac yn amlygu gwaith y bernir ei fod o’r safon uchaf ymhlith cyhoeddiadau ymchwil yng Nghymru; mae ysgoloriaeth Aberfan yn annog ac yn cynorthwyo myfyrwyr o Aberfan a’r cyffiniau yng Nghwm Merthyr i fynd i addysg uwch; ac mae cronfa Ysgoloriaeth Geoffrey Crawshay ac Ysgoloriaeth Deithio Goffa Gareth Jones yn galluogi ymgeiswyr llwyddiannus i deithio dramor â’r bwriad o gyfoethogi profiad esthetig y myfyriwr mewn cangen o’r Celfyddydau Cain neu hwyluso astudiaeth o faterion rhyngwladol.

Sefydlwyd UWRET ym mis Chwefror 2015, a hyd yma mae’r Brifysgol wedi parhau i weinyddu’r gwaddolion hyn ar ei rhan. Fodd bynnag, mae’r holl faterion bellach wedi’u trosglwyddo’n llawn, gyda’r ‘gwaddolion cyfyngedig’ hyn yn cael eu gosod mewn cronfa newydd a grëwyd gan yr ymddiriedolaeth - cronfa gwaddol ‘Y Werin’.

UWRET yw un o’r mentrau cyntaf i’w chyflawni dan Adduned Cymru, un o gyfres o drefniadau strategol a gyhoeddwyd gan y Brifysgol fel rhan o’i thrawsnewidiad parhaus drwy uno gyda Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Gan siarad am bwysigrwydd y cyhoeddiad hwn, dywedodd yr Is-Ganghellor, yr Athro Medwin Hughes:

“Mae’r symudiad arwyddocaol hwn yn cadarnhau ymrwymiad y Brifysgol i ddiogelu’r gweithgareddau academaidd a diwylliannol y mae’n eu cefnogi, ac mae’n sicrhau parhad ei chyfraniad i ddysg ac ysgolheictod drwy gydol proses uno Prifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ac wedi hynny.”

Ychwanegodd Mr Alun Thomas, Cadeirydd Cyngor Prifysgol Cymru:

“Mae hanes hir a balch gan Brifysgol Cymru, ac mae wedi chwarae rhan bwysig yn natblygiad addysg uwch yng Nghymru. Drwy gymryd y camau hyn, mae’r Brifysgol yn dangos ei bod yn parhau’n ffyddlon i’w gwerthoedd craidd a’i bod yn gwneud pob ymdrech i gynnal ei gwaddol i genedlaethau’r dyfodol, a Chymru gyfan.”

Bydd yr ymddiriedolwyr bellach yn rheoli’r gwaddolion cyfyngedig yn gyson â dibenion elusennol yr ymddiriedolaeth a bwriadau elusennol cymwynaswr gwreiddiol pob un o’r gwaddolion. Byddant yn gwneud penderfyniadau strategol ynghylch buddsoddi a rheoli’r gwaddolion cyfyngedig ac yn gosod meini prawf ac yn asesu unrhyw geisiadau am wobrau neu ddyfarniadau.

Dywedodd Mr Dick Roberts, Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth:

“Dylai’r symudiad hwn roi sicrwydd i’r gymuned ehangach y bydd y rhoddion hyn, a gyflwynwyd yn hael, yn parhau i gael eu dyfarnu a’u defnyddio at eu dibenion gwreiddiol yn unig. Mae trosglwyddo awdurdod cyflawn i’r ymddiriedolaeth a chreu Y Werin yn dangos bod y Brifysgol yn deall pwysigrwydd diogelu’r gwasanaethau traddodiadol sy’n gysylltiedig â’r Brifysgol, a’i hymrwymiad i sicrhau bod yr asedau hanesyddol y mae’n eu dal yn parhau i fod o fudd i Gymru gyfan, yn ystod y cyfnod uno ac wedi hynny.”

Bydd rhagor o fanylion am y strwythur newydd a gwefan newydd Y Werin, fydd yn cynnwys gwybodaeth am yr holl wahanol ddyfarniadau a gwobrau sydd ar gael i Fyfyrwyr a Graddedigion, ynghyd â manylion ymgeisio, ar gael yn fuan.

/DIWEDD

Nodiadau i Olygyddion

Rhai enghreifftiau o unigolion a dderbyniodd waddolion cyfyngedig:

Christie Williams - Yn 2015, derbyniodd Christie Williams £1,500 fel deiliad Ysgoloriaeth Aberfan Prifysgol Cymru. Helpodd yr ysgoloriaeth ei chynnal drwy flwyddyn gyntaf ei hastudiaethau am radd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe.

James Foster, Nina Kirk a Katie Bale – Yn 2013, cyhoeddwyd bod tri myfyriwr o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi ennill Grant Teithio Ellen Thomas Stanford. Mae’r dyfarniad yn darparu cyllid i fyfyrwyr sy’n dymuno parhau ag astudiaethau’n ymwneud â’r Clasuron, Groeg neu Ladin, a derbyniodd pob un o’r tri £1,500 i’w cynorthwyo i fynychu cyrsiau yn ystod y gwyliau neu deithio tramor i ymweld ag amgueddfeydd a safleoedd archeolegol perthnasol i’w rhaglen astudio.

Dilys Jones - Yn 2012, derbyniodd y myfyriwr aeddfed Dilys Jones £1,000 fel enillydd Ysgoloriaeth Geoffrey Crawshay. Ar y pryd roedd yn fyfyriwr PhD ar ei blwyddyn olaf ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, a galluogodd yr ysgoloriaeth hi i deithio i gynhadledd yn Efrog Newydd a chyflwyno papur ymchwil i gyd-academyddion yn yr un maes.

Anthony Savagar - Yn 2012, derbyniodd Anthony Savagar £2,000 fel enillydd gwobr Gethyn Davies Prifysgol Cymru. Ag yntau’n ymgymryd â PhD mewn Economeg ym Mhrifysgol Caerdydd, roedd ei ddiddordebau ymchwil yn gorwedd ym maes economeg cyfrifiannu, a galluogodd y wobr iddo ddatblygu ei gymwysterau rhaglennu cyfrifiadurol.

Jason Edwards - Yn 2011, dyfarnwyd £3,000 i Jason Edwards fel un o enillwyr Ysgoloriaeth Deithio Goffa Gareth Jones Prifysgol Cymru am ei adroddiadau ymchwiliadol ar dlodi bwyd yn America, oedd yn rhan o’i astudiaethau Meistr. Defnyddiodd Jason y wobr i gyfrannu at ariannu rhaglen ddogfen ar y prosiect.

I gael rhagor o wybodaeth am Brifysgol Cymru ewch i: www.cymru.ac.uk

I gael gwybodaeth i’r wasg a’r cyfryngau, cysylltwch â Thîm Cyfathrebu Prifysgol Cymru - cyfathrebucymru.ac.uk

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori

In: Newyddion a Digwyddiadau