Wedi ei bostio ar 2 Mawrth 2016
Mae’n bleser gan Wasg Prifysgol Cymru, mewn partneriaeth gyda Chanolfan Cymru er Cydraddoldeb mewn Addysg, gyhoeddi y bydd Cylchgrawn Addysg Cymru (Cylchgrawn Addysg Prifysgol Cymru yn flaenorol) yn cael ei lansio ddydd Iau, 3 Mawrth 2016, yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd. Bydd copïau o’r Cylchgrawn ar gael yn y digwyddiad, neu gellir tanysgrifio i’r cylchgrawn drwy ymweld â gwefan Gwasg Prifysgol Cymru.
Bydd Rhodri Morgan, cyn Brif Weinidog Cymru, yn lansio’r unig gylchgrawn a gaiff ei ganoli, sy’n ymrwymo i gyhoeddi erthyglau sy’n dyfnhau dealltwriaeth o ymarfer gorau ar draws sectorau addysg Cymru.
Nod y Cylchgrawn yw apelio at ymchwilwyr, gwneuthurwyr polisi ac ymarferwyr sy’n rhannu’r nod o gyflawni rhagoriaeth mewn addysg yng Nghymru. Yn rhifyn gwanwyn 2016 ceir erthyglau gan addysgwyr blaenllaw, gan gynnwys Graham Donaldson, John Furlong, David Egan a David Reynolds, ar y materion allweddol sy’n effeithio ar addysg yng Nghymru yn dilyn Sgwrs Fawr y genedl yn ddiweddar.
Rydym yn croesawu erthyglau sy’n ymwneud ag addysg yng Nghymru ond hefyd teitlau sydd ag arwyddocâd ehangach gan gynnwys astudiaethau cymharol a chyfraniadau rhyngwladol. Mae’r Cylchgrawn hefyd yn cynnwys erthyglau adolygu ac adolygiadau o gyhoeddiadau, yn enwedig rhai sy’n ymwneud ag addysg yng Nghymru. Nod rhaglen Rhifyn Arbennig y Cylchgrawn yw hybu trafodaeth am themâu arwyddocaol ac ymatebion i bynciau a godir gan gyfranwyr a darllenwyr.