Gwobrau Llenyddol Prifysgol Cymru

Wedi ei bostio ar 21 Rhagfyr 2021
Picture2 CAWCS

Yr Athro Robin Chapman Stacey, Dr Jenny Day, Dr Siwan Rosser.

Mae Cronfa Dreftadaeth Y Werin Prifysgol Cymru wedi dyfarnu ei gwobrau blynyddol i ysgolheigion am eu gwaith mewn tri maes ymchwil penodol.

Mae Gwobr Hywel Dda, Gwobr Goffa Syr Ellis-Griffith a Dyfarniad/Gwobr Goffa Vernam Hull yn wobrau blynyddol a gyflwynir gan y Brifysgol am gyhoeddiadau academaidd.

 Derbyniodd yr Athro Robin Chapman Stacey o Brifysgol Washington Wobr Hywel Dda am ei chyfraniad oes i’r maes. Ar hyn o bryd mae Robin Chapman Stacey yn Athro Hanes ac Athro Cysylltiol mewn Astudiaethau Rhyw, Menywod a Rhywioldeb ym Mhrifysgol Washington. Yn raddedig o Rydychen ac Iâl, mae hi'n awdur tri llyfr a sawl erthygl ar y gyfraith yng Nghymru ac Iwerddon yn yr Oesoedd Canol, gan gynnwys The Road to Judgment: From Custom to Court yn Medieval Ireland and Wales (1994); Dark Speech: The Performance of Law in Early Ireland (2007); a Law and the Imagination in Medieval Wales (2018). 

Daw’r wobr hon o incwm cronfa a godwyd drwy danysgrifiadau cyhoeddus i goffáu dathlu milflwyddiant Hywel Dda yn 1928.

Meddai’r Athro Stacey: ‘Mae'n anrhydedd mawr i dderbyn y wobr hon, ac rwy’n ddiolchgar iawn i'r Ganolfan a Phrifysgol Cymru am ei chefnogaeth dros y blynyddoedd. Fel mae'n digwydd, byddaf yn ymddeol y mis hwn, ac felly mae’n amser da i ailedrych ar fywyd. O ystyried yr ysgolheigion mawr sydd wedi cael eu hanrhydeddu fel hyn yn y gorffennol, mae'n syndod dod o hyd i fy hun ar y rhestr ac rwy’n teimlo’n wylaidd iawn. Diolch yn fawr iawn.’

Cyflwynwyd Dyfarniad/Gwobr Goffa Vernam Hull i Dr Jenny Day am ei golygiad o Fuchedd Martin. Mae Dr Jenny Day yn Gymrawd Ymchwil yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd ac yn Olygydd Cynorthwyol gyda Geiriadur Prifysgol Cymru. Dechreuodd ei gyrfa fel gwyddonydd, yn sgil astudiaethau israddedig ac ôl-raddedig ym Mhrifysgol Caergrawnt, wedyn ar ôl astudio’n rhan-amser ar gyfer BA yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, aeth ati i gwblhau doethuriaeth, hefyd yn Aberystwyth, ar agweddau milwrol ar farddoniaeth yr Oesoedd Canol. Mae hi’n aelod o staff yn y Ganolfan ers 2009 ac wedi cyfrannu at gyfres o brosiectau gan gynnwys ‘Barddoniaeth Guto’r Glyn’ a ‘Thirweddau Cysegredig Mynachlogydd yr Oesoedd Canol’, yn ogystal â phrosiect ‘Cwlt y Seintiau yng Nghymru’. Gweithiodd ar Fuchedd Martin yn rhan o’r prosiect hwnnw ac mae’r golygiad wedi’i gyhoeddi gyda mynediad agored yn https://saint2.llgc.org.uk/texts/prose/BMartin/edited-text.cym.html

Daw Dyfarniad/Gwobr Goffa Vernam Hull o incwm cymynrodd o $10,000 i Brifysgol Cymru gan y diweddar Dr Vernam Edward Nunnemacher Hull (1894-1976), Athro mewn Ieithoedd Celtaidd ym Mhrifysgol Harvard, y dyfarnwyd iddo radd DLitt honoris causa gan Brifysgol Cymru ar achlysur y Gyngres Astudiaethau Celtaidd Ryngwladol yn 1963.

Meddai Dr Jenny Day: ‘Mae’n fraint ac yn bleser mawr derbyn Gwobr Goffa Vernam Hull am fy ngolygiad ar-lein o Fuchedd Martin. Mae’r fuchedd Ladin wreiddiol yn un o’r bucheddau cynharaf a phwysicaf, ac mae ei gyfieithiad sensitif a pharchus gan Siôn Trefor o Bentrecynfrig, ger y Waun, yn adlewyrchu diwylliant llenyddol ffyniannus gogledd-ddwyrain Cymru yn yr Oesoedd Canol diweddar. Cefais foddhad mawr o astudio’r testun hwn ac rwyf yn ddiolchgar iawn i Gronfa Dreftadaeth Y Werin Prifysgol Cymru am gydnabod fy ngwaith ar y golygiad’. 

 Dyfarnwyd Gwobr Goffa Syr Ellis-Griffith i Dr Siwan Rosser am ei chyfrol Darllen y Dychymyg: creu ystyron newydd i blant a phlentyndod yn llenyddiaeth y bedwaredd ganrif ar bymtheg (GPC, 2020).

 Mae Dr Siwan Rosser yn uwch-ddarlithydd ac yn ddirprwy bennaeth yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. Yn wreiddiol o Sir y Fflint, graddiodd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth cyn ymgymryd ag ymchwil ôl-raddedig ar lenyddiaeth boblogaidd y ddeunawfed ganrif. Bellach, mae ei harbenigedd ymchwil yn ymwneud yn bennaf â llenyddiaeth Gymraeg i blant ac mae ei gweithgarwch yn y maes hwn wedi arwain at ddealltwriaeth a thrafodaeth newydd ynghylch arwyddocâd a swyddogaeth llenyddiaeth ar gyfer darllenwyr ifainc. Ers 2017, mae canfyddiadau ei harolwg ar Lyfrau Plant a Phobl Ifanc yn llywio strategaeth Cyngor Llyfrau Cymru wrth gefnogi’r diwydiant cyhoeddi llyfrau plant, ac mae ei hysgrifau ar bynciau megis cyfieithu a chenedligrwydd wedi sefydlu llenyddiaeth plant Cymru yn faes astudiaeth ystyrlon a chyfoes. Ei chyfrol Darllen y Dychymyg: creu ystyron newydd i blant a phlentyndod yn llenyddiaeth y bedwaredd ganrif ar bymtheg (Gwasg Prifysgol Cymru) yw’r cyhoeddiad estynedig cyntaf ar lenyddiaeth Gymraeg i blant, ac fe’i henwebwyd i restr fer gwobr Llyfr y Flwyddyn yn 2021.

Cyflwynir y wobr yn flynyddol o Gronfa Ellis-Griffith yn enw Prifysgol Cymru ar gyfer y gwaith gorau yn y Gymraeg am lenorion Cymraeg neu am eu gweithiau, neu am arlunwyr neu grefftwyr Cymreig neu eu gweithiau hwy. Daw’r Wobr o Gronfa a godwyd yn Sir Fôn ac yn Llundain yn bennaf i gofio enw’r diweddar Wir Anrhydeddus Syr Ellis Jones Ellis-Griffith MA KC PC (1860-1926), a fu’n Aelod Seneddol dros etholaeth Sir Fôn. 

Meddai Dr Rosser: ‘Mae hi’n fraint o’r mwyaf derbyn Gwobr Goffa Syr Ellis Griffith. Rwy’n hynod o ddiolchgar i’r beirniaid am ddyfarnu’r wobr hon i’r gyfrol Darllen y Dychymyg, sy’n trafod dechreuadau llenyddiaeth plant yn y Gymraeg. Bu cyhoeddi yn ystod cyfnod y pandemig yn brofiad rhyfedd, ar sawl ystyr. Gan nad oedd modd cysylltu yn y ffyrdd arferol â darllenwyr mae deall i’r gyfrol blesio’r beirniaid yn destun balchder mawr. Diolch o galon i bawb am eu cefnogaeth, yn arbennig staff Gwasg Prifysgol Cymru.’

 Meddai Margaret Evans ar ran yr Ymddiriedolwyr:

 Mae’n hynod galonogol gweld fod enillwyr llwyddiannus eleni ar gyfer y tair gwobr a hoffwn eu llongyfarch yn fawr. I ni fel Ymddiriedolwyr Cronfa Treftadaeth y Werin, dyma ddathliad pellach o bwysigrwydd y Gronfa a’r gwobrwyon a’r ysgoloriaethau sydd wedi eu cyflwyno ar hyd y cenedlaethau. Mae yma sylfeini hanesyddol cryfion, ynghyd â gwaith parhaus y Gronfa i gefnogi ac i wobrwyo llwyddiant.

Meddai’r Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd:

Fel Canolfan rydym yn falch iawn o fod yn rhan o’r gwobrau hyn sy’n cydnabod y safon uchaf o ysgolheictod. Hoffwn ddiolch i’r beirniaid oll am eu gwaith gofalus ac yn bennaf oll hoffwn longyfarch pob un o’r tair a ddaeth i’r brig eleni yn y gwobrau hyn.

 

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori