GPC mis Mawrth 2022 newyddion

Wedi ei bostio ar 14 Mawrth 2022
theatr March 2022

Y mis hwn mae Gwasg Prifysgol Cymru’n cyhoeddi’r diweddaraf yn ein cyfres ‘Horror Studies’, Theatre and the Macabre, wedi’i olygu gan Meredith Conti a Kevin J. Wetmore, Jr. Mae Theatre and the Macabre yn archwilio’r afiach a’r ffiaidd ar y llwyfan, o ‘freakshows’ i’r Grand Guignol Ffrengig, o theatr drochol i dwristiaeth dywyll, gan aros ar hyd y ffordd i edrych ar ddrychiolaethau, pennau gwahanedig, dawns marwolaeth a chyrff a ddatgymalwyd.

Ewch i’r wefan i brynu copi: https://www.uwp.co.uk/book/theatre-and-the-macabre/

Y teitl diweddaraf yn ein cyfres ‘French and Francophone Studies’ yw Precarious Sociality, Ethics and Politics: French Documentary Cinema in the Early Twenty-First Century gan Audrey Evrard. Mae Precarious Sociality, Ethics and Politics yn archwilio ‘dychweliad’ gwneuthurwyr ffilm i’r gwaith erbyn diwedd y 1990, gan ganolbwyntio ar sut y gosodwyd yr ymarfer fel pwynt breintiedig o fynegiant rhwng estheteg, gwleidyddiaeth a moeseg, lle gellid ymdrin â gwaith, ansicrwydd ac actifiaeth o’r newydd.

Ewch i’r wefan i brynu copi: https://www.uwp.co.uk/book/precarious-sociality-ethics-and-politics/

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori

In: Newyddion a Digwyddiadau