Wedi ei bostio ar 24 Chwefror 2016
Ym mis Ebrill 2015 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru bod ap GPC yn un o ddeg prosiect a fyddai’n elwa o arian a neilltuir i hybu defnydd o’r Gymraeg drwy dechnoleg a chyfryngau digidol.
Mae Geiriadur y Brifysgol (http://gpc.cymru) wedi bod ar lein er mis Mehefin 2014 ond bellach mae ar gael fel ap ar gyfer ffonau symudol a thabledi. Mae’r ap yn cynnwys holl ddata Geiriadur Prifysgol Cymru, geiriadur Cymraeg cynhwysfawr tebyg i’r Oxford English Dictionary. Yn wahanol i GPC Ar Lein, mae modd lawrlwytho holl gynnwys y geiriadur i’ch dyfais fel nad oes angen cysylltiad â’r Rhyngrwyd i’w ddefnyddio. Diffinnir pob gair yn Gymraeg gydag enghreifftiau o’i ddefnydd o bob cyfnod a rhoddir cyfystyron Saesneg a tharddiad.
Yn ôl Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones:
“Mae Geiriadur Prifysgol Cymru eisoes wedi bod yn un o’r safonau aur ar gyfer yr iaith Gymraeg ac, fel rwy’n gwybod o brofiad, mae’n rhywbeth sy’n cael ei ddefnyddio’n barhaus gan siaradwyr Cymraeg a dysgwyr.
“Rwy’n falch iawn, felly, ein bod wedi gallu cefnogi’r Brifysgol er mwyn rhoi’r adnodd cynhwysfawr, poblogaidd a hynod ddefnyddiol hwn mewn cyfrwng newydd ar gyfer cynulleidfa newydd.
Mae’r ap hwn yn cyfrannu at ein bwriad ni, fel llywodraeth, o annog mwy o bobl o bob cefndir i ddefnyddio’r iaith yn eu bywydau bob dydd. Iaith fodern, hyderus a ffyniannus ar gyfer Cymru fodern, hyderus a ffyniannus.”
Caiff yr ap ei lansio am 11:00 heddiw yn Ysgol Gyfun Penweddig, Aberystwyth, a disgwylir y bydd disgyblion ysgol a myfyrwyr ymhlith y rhai a fydd yn elwa’n fawr ohono.
Meddai’r Athro Medwin Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol Cymru:
“Dyma garreg filltir arall hynod o bwysig yn hanes y Geiriadur – mae Prifysgol Cymru yn falch fod holl gyfoeth y Geiriadur bellach yn fwy cyraeddadwy i bawb.”
Ers lansiad y Geiriadur Ar Lein mae nifer o eiriau newydd wedi’u hychwanegu ac i gyd-fynd â’r lansiad yma ychwanegwyd llawer mwy. Yn eu plith y tro hwn y mae nifer o eiriau yn ymwneud â bwyd – geiriau megis eisin, eidionyn,grawnffrwyth, hambyrgyr, harico, lasania, llysfwytawr, macarŵn ac mae’r geiriau hashish a goryfed hefyd wedi ennill eu lle! Mae geiriau cyfrifiadurol megis e-bost, e-bostio, gwefan a gwallneges hefyd i’w gweld am y tro cyntaf ynghyd â jog a jogio.
“Mae’n wych medru ychwanegu geiriau newydd fel hyn i’r Geiriadur,” medd Andrew Hawke, Golygydd Rheolaethol y Geiriadur. “Gan ein bod bellach ar lein mae modd ychwanegu unrhyw air ar unrhyw adeg ac y mae dyddiad cynharaf geiriau sy’n ymddangos yn weddol ddiweddar yn aml yn syndod. Pwy fuasai’n meddwl bod jogio wedi ymddangos gyntaf yn y Rhyl Record and Advertiser yn 1909? Ond yr ystyr bryd hynny oedd ‘symud neu fynd ymlaen mewn ffordd lafurus’.”
Fe fydd yr ap hefyd yn cynnwys dwy gêm eiriau syml – y naill i gael hyd i air cudd a’r llall i ddatrys anagram.
/Diwedd
Lansiad ap Y Geiriadur - 11.00, bore Mercher, 24 Chwefror yn Ysgol Gyfun Penweddig, Aberystwyth
Bydd modd gweld y lansiad yn fyw drwy gyfrwng Periscope a hynny drwy ddilyn Y Geiriadur ar Periscope neu drwy glicio ar ddolen a fydd yn cael ei hanfon o gyfrif trydar @geiriadur ar ddechrau’r darllediad. Nid oes rhaid cael cyfrif trydar. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Sarah Down-Roberts – sdr@geiriadur.ac.uk neu 07773 470649.
Geiriadur Prifysgol Cymru Ar Lein - http://gpc.cymru
gwefan Geiriadur Prifysgol Cymru - www.geiriadur.ac.uk
@geiriadur ar Twitter (https://twitter.com/geiriadur)
@geiriadur ar Clecs (https://www.clecs.cymru)
Geiriadur Prifysgol Cymru ar Facebook