Wedi ei bostio ar 8 Tachwedd 2017
Sefydlwyd Prifysgol Cymru drwy Siarter Brenhinol yn 1893, ac fe’i hystyrir yn sefydliad cenedlaethol sydd wedi bod wrth galon bywyd addysgol a diwylliannol Cymru.
Roedd pobl Cymru’n ystyried eu Prifysgol yn sefydliad cenedlaethol a gâi ei ddathlu ar lwyfan cenedlaethol a rhyngwladol. Drwy gefnogaeth y Brifysgol i’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, Geiriadur Prifysgol Cymru, Neuadd Gregynog (a gymynroddwyd i’r Brifysgol yn y 1960au) a Gwasg Prifysgol Cymru, helpodd i hybu a dathlu iaith, etifeddiaeth a diwylliant Cymru.
Dros y blynyddoedd mae’r Brifysgol wedi addasu er mwyn bod mewn sefyllfa i ymateb i anghenion myfyrwyr, yng Nghymru a thu hwnt. Ym mis Hydref 2011, ymrwymodd cyrff llywodraethu Prifysgol Cymru, Prifysgol Fetropolitan Abertawe a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant i newid ac uno diwrthdro. Mae’r broses hon yn dal ar waith, ac ym mis Awst eleni, cymeradwyodd y ddwy Brifysgol weithred uno oedd yn cyflawni’r amcan polisi gwreiddiol o integreiddio dwy Brifysgol hanesyddol, a thrwy hynny greu Prifysgol newydd i Gymru.
Gyda blwyddyn academaidd 2017/18 yn arwyddo newidiadau hanesyddol i’r Sefydliad, bydd y Brifysgol yn cynnal digwyddiad arbennig i ddathlu’r cyfraniad y mae wedi’i wneud i’r sector Addysg Uwch yng Nghymru, ac i’r wlad yn gyffredinol, dros y tair canrif ddiwethaf, a dangos y gwaddol y bydd yn ei adael i genedlaethau’r dyfodol.
Fel rhan o’r digwyddiad, a gaiff ei gynnal yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd ar 8 Tachwedd, bydd Prifysgol Cymru’n cyflwyno graddau er anrhydedd i chwe unigolyn i gydnabod eu cyflawniadau unigol mewn meysydd academaidd fel y celfyddydau, llên, y gwyddorau, masnach a diwydiant, bywyd proffesiynol a gwasanaeth i’r cyhoedd neu i’r Brifysgol. Y chwe unigolyn a gaiff eu cydnabod yw:
Mr Alun Thomas - Doethur mewn Economeg a Gwyddor Gymdeithasol Honoris Causa
Ag yntau’n gyfrifydd siartredig yn ôl ei broffesiwn, ymddeolodd Alun Thomas yn 1996 fel partner yn swyddfa Llundain Coopers & Lybrand Deloitte. Mae’n Gadeirydd Shaw Healthcare Limited, ac mae wedi dal nifer o swyddi gwirfoddol dros y blynyddoedd yng Nghymru a thu hwnt, gan gynnwys Ymddiriedolaeth Elusennol Rygbi Cymru ac Ysgol Gymraeg Llundain. Mae wedi bod yn Is-Gadeirydd Clwb Rygbi Cymry Llundain ac yn Drysorydd Mygedol ac Is-Lywydd Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Mae Alun Thomas wedi dal y swydd uchaf a mwyaf arwyddocaol ym Mhrifysgol Cymru. Ar ôl gwasanaethu fel Trysorydd Mygedol ac Is-Gadeirydd, yn ddiweddar rhoddodd y gorau i Gadeiryddiaeth Cyngor y Brifysgol ar ôl chwe blynedd yn y swydd.
Y Fonesig Clancy DCB - Doethur er Anrhydedd y Brifysgol
Fel Prif Weithredwr a Chlerc Cynulliad Cenedlaethol Cymru, arweiniodd y Fonesig Claire ddatblygiad yr egin gorff democrataidd a’i droi’n un sydd bellach yn arwain y byd o ran y cymorth mae’n ei gynnig i Aelodau Cynulliad. Ymddeolodd ym mis Ebrill ar ôl gwasanaethu am ddegawd yn y rôl. Yn ystod ei chyfnod yn y swydd, daeth y Cynulliad yn gorff deddfu seneddol llawn drwy’r refferendwm ar bwerau pellach yn 2011, a datganoli pwerau ychwanegol drwy Ddeddfau Cymru yn 2014 a 2017. Ym mis Mehefin fe’i penodwyd yn Fonesig Gomander Urdd y Baddon (DCB) yn anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines i gydnabod ei rôl mewn gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru.
Yr Athro Colin H Williams - Doethur mewn Llên Honoris Causa
Mae’r Athro Williams wedi’i gydnabod yn rhyngwladol ers blynyddoedd lawer am ei arbenigedd ym maes cynllunio a pholisi iaith a daearyddiaeth iaith, yn benodol y Gymraeg. Ag yntau’n awdur/golygydd nifer fawr o gyhoeddiadau, mae wedi gwasanaethu fel ymgynghorydd i asiantaethau llywodraethol yn Ewrop a Gogledd America. Ym mis Ebrill 2000, penodwyd yr Athro Williams yn aelod o Fwrdd yr Iaith Gymraeg gan y Cynulliad Cenedlaethol, swydd y bu ynddi tan 2011. Mae wedi bod yn athro ac ysgolhaig ymweliadol mewn Sefydliadau ledled y byd, ac ym mis Mehefin 2015, yn dilyn gyrfa academaidd lwyddiannus fel Athro Ymchwil a Chyfarwyddwr yr Uned Ymchwil Iaith, Polisi a Chynllunio yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, fe’i hetholwyd yn Gymrawd Ymweliadol yng Ngholeg St Edmund's Prifysgol Caergrawnt.
Mr Daniel Huws - Doethur mewn Llên Honoris Causa
Mae Daniel Huws yn gyn Geidwad Llawysgrifau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac ef yw’r awdurdod blaenllaw ar lawysgrifau canoloesol Cymru – y rheini a ysgrifennwyd yn y Gymraeg ac mewn ieithoedd eraill yng Nghymru. Mae’n nodedig yn benodol am ei astudiaethau manwl o lawysgrifau unigol, a’r rhain, ochr yn ochr â phortreadau o gasglwyr sylweddol y Dadeni, oedd cynnwys ei waith Medieval Welsh Manuscripts (2000), a gydnabyddir fel y canllaw ysgolheigaidd allweddol yn y maes. Mae Mr Huws wedi cyhoeddi nifer o erthyglau a phenodau ar ei ysgolheictod rhyfeddol, a thros y 25 mlynedd diwethaf mae wedi bod yn gweithio ar A Repertory of Welsh Manuscripts and Scribes up to 1800, catalog cynhwysfawr a fydd yn sylfaen anhepgor ar gyfer astudiaethau llenyddol a hanesyddol Cymreig pan gaiff ei gyhoeddi.
Yr Athro Dianne Edwards CBE FRS - Doethur yn y Gwyddorau Honoris Causa
Botanegydd nodedig yw’r Athro Edwards sy’n adnabyddus am ei hastudiaeth o fywyd cynnar planhigion ar y Ddaear. Ar hyn o bryd mae’n Athro Ymchwil Nodedig yn Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a’r Môr ym Mhrifysgol Caerdydd ble mae wedi treulio’r rhan fwyaf o’i gyrfa ymchwil fel palaeobotanegydd. A hithau’n awyddus i gymryd rhan ym mywyd cyhoeddus Cymru, a rhannu ei hangerdd am fotaneg drwy weithgareddau addysgol, hi oedd un o sylfaenwyr Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Mae hefyd yn gyn Aelod o Gyngor Cyngor Cefn Gwlad Cymru gan helpu i hyrwyddo pwysigrwydd cadwraeth. Yn 1999 dyfarnwyd CBE iddi am ei gwasanaeth i Fotaneg, ac mae wedi derbyn sawl anrhydedd a gwobr yn ei maes.
Mr Llŷr Williams - Doethur mewn Cerdd Honoris Causa
Ag yntau’n adnabyddus am ei berfformiadau o waith Beethoven, caiff y pianydd byd-enwog o Gymro Llŷr Williams ei edmygu’n eang am ei ddealltwriaeth gerddorol ddwys a natur fynegiannol a chyfathrebol ei ddehongliadau. Yn dilyn perfformiad cyntaf a ganmolwyd yn eang yng Ngŵyl Ryngwladol Caeredin yn 2003, blodeuodd ei yrfa fel unawdydd a chyfeilydd - fe’i dewiswyd yn Artist y Genhedlaeth Newydd gan y BBC ac ef yn ogystal oedd un o’r cyntaf i dderbyn Gwobr nodedig Borletti Busoni. Ers hynny mae wedi gweithio gyda llawer o Gerddorfeydd rhyngwladol ac wedi rhoi datganiadau yn y mwyafrif o ganolfannau mawr y Deyrnas Unedig a thrwy Ewrop, yn ogystal ag ymweld â Mecsico a Japan. Perfformiodd am y tro cyntaf yn America yn Neuadd Carnegie. Mae’n Artist Preswyl yng Ngŵyl y Bontfaen ac yn Galeri Caernarfon, yn Artist Cyswllt yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac mae wedi cyfeilio’n rheolaidd yng Nghystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd y BBC ers 2003.
Mae’r Brifysgol yn falch iawn i gydnabod llwyddiannau a chyfraniadau pob un o’r unigolion hyn yn eu meysydd perthnasol, ac yn falch hefyd i’w croesawu oll yn Raddedigion Er Anrhydedd Prifysgol Cymru.