Eisteddfod Genedlaethol 2017

Wedi ei bostio ar 3 Awst 2017
Eisteddfod201617

Cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol, y dathliad blynyddol o ddiwylliant ac iaith Cymru, yn ystod wythnos gyntaf mis Awst. Mae’r ŵyl yn teithio o le i le ar draws Cymru gan ddenu dros 250 o stondinau.

Eleni cynhelir yr Eisteddfod ar Ynys Môn rhwng 4 a 12 Awst, ac unwaith eto bydd Prifysgol Cymru’n bresennol.

Byddwn yn rhannu stondin gyda’n partner uno Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, a chynhelir llawer o ddigwyddiadau a darlithoedd drwy gydol yr wythnos, gan gynnwys sesiwn wybodaeth gan Angharad Fychan, un o Uwch Olygwyr Geiriadur Prifysgol Cymru am yr ychwanegiadau diweddaraf i’r geiriadur, cyfle i ddysgu mwy am ‘Gyfeillion y Geiriadur’ gyda Myrddin ap Dafydd, perfformiadau gan fyfyrwyr Canolfan Berfformio Cymru (CBC), yn ogystal â gweithdai, grwpiau trafod a darlithoedd eraill. Bydd ymwelwyr hefyd yn cael pori a phrynu llyfru o siop lyfrau Prifysgol Cymru.

Unwaith eto, bydd y ddwy brifysgol yn noddi’r Babell Lên gyda nifer o ddigwyddiadau a darlithoedd gan gynnwys y ddarlith flynyddol ddydd Gwener a chyfres o sgyrsiau llenyddol.

Mae’r digwyddiadau fel a ganlyn:

Llun 7 Awst – 12:30
Bywyd fy ewythr, Hedd Wyn
Mererid Hopwood yn sgwrsio gyda nai Hedd Wyn, am ei deulu a’i fywyd yn gofalu am Yr Ysgwrn, y tŷ fferm o’r ddeunawfed ganrif oedd yn gartref i’r bardd cadeiriog.

Mawrth 8 Awst – 12:30
O'r Gair i'r Gân: Opera ‘Wythnos yng Nghymru Fydd’
Catrin Beard yn sgwrsio gyda Gareth Glyn am yr opera Cymraeg newydd Wythnos yng Nghymru Fydd. Crëwyd y gwaith gan Gareth Glyn a Mererid Hopwood, ac mae’n seiliedig ar nofel ddyfodolaidd Islwyn Ffowc Elis.

Mercher 9 Awst – 12:30
110 o flynyddoedd ers sefydlu'r Llyfrgell Genedlaethol
Bydd y cyn lyfrgellydd Andrew Green yn sgwrsio gyda Catrin Beard 110 o flynyddoedd ers sefydlu’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, lle’r oedd yn Llyfrgellydd Cenedlaethol am 14 o flynyddoedd rhwng 1998 a 2013.

Iau 10 Awst – 12:30
Corlannau a Chlymau, y Prifardd Eluned Phillips
Menna Elfyn yn trafod bywyd anghonfensiynol Eluned Phillips, yr awdur a’r unig fardd benywaidd i gael ei choroni ddwywaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn ystod yr ugeinfed ganrif.

Gwener 11 Awst – 13:15
Martin Luther, William Salesbury a Griffith Jones, Llanddowror: Etifeddiaeth y Diwygiad Protestannaidd, 1517-2017
Densil Morgan sy’n traddodi darlith Prifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ar Martin Luther, William Salesbury a Griffith Jones, Llanddowror, a gwaddol y Diwygiad.

Bydd cynrychiolwyr y Brifysgol wrth law drwy’r wythnos i sgwrsio gydag aelodau o’r Cyn-fyfyrwyr, boed i ateb cwestiynau mewn amgylchedd anffurfiol, neu hel atgofion am eu cyfnod yn y Brifysgol ac mae rhai o Ganghennau ac Adrannau’r Cyn-fyfyrwyr hefyd yn trefnu eu digwyddiadau eu hunain drwy’r wythnos. Am hanner dydd ddydd Llun 7 Awst ym Mhabell y Cymdeithasau 1, bydd adran Clasuron y Cyn-fyfyrwyr yn cynnal eu darlith flynyddol. Eleni bydd Samuel Jones yn traddodi darlith ar y clasurwr nodedig T Hudson Williams dan y teitl T. Hudson-Williams a’i Yrfa Glasurol ac estynnir croeso cynnes i bawb. Ddydd Gwener caiff chweched gyfrol cyfres Astudiaethau Athronyddolyr Adran Athronyddol ei lansio. Y teitl yw Argyfwng Hunaniaeth a Chred: Ysgrifau ar Athroniaeth JR Jones ac mae’r gyfrol yn canolbwyntio ar athroniaeth JR Jones, cyn Bennaeth yr Adran Athroniaeth yn Abertawe. Caiff y gyfrol ei lansio am hanner dydd ar stondin y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yng nghwmni’r golygydd E. Gwynn Matthews a Cynog Dafis.

Edrychwn ymlaen at eich gweld yno.

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori

In: Newyddion a Digwyddiadau