GWOBRAU PRIFYSGOL CYMRU AM Y CYFROLAU GORAU

Wedi ei bostio ar 25 Hydref 2019
CAWCS

GWOBRAU PRIFYSGOL CYMRU AM Y CYFROLAU GORAU

Mae Prifysgol Cymru wedi dyfarnu ei gwobrau blynyddol i dri awdur. Mae Gwobr Hywel Dda, Gwobr Goffa Syr Ellis-Griffith a Dyfarniad / Gwobr Goffa Vernam Hull yn wobrau blynyddol a gyflwynir gan y Brifysgol am gyhoeddiadau academaidd.

Derbyniodd Dr Angharad Elias o Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru Wobr Hywel Dda am ei llyfr Yr Ail Lyfr Du o’r Waun: Golygiad Beirniadol ac Eglurhaol o Lawysgrif Peniarth 164 (H) Caergrawnt, 2018. Cyhoeddiad diweddaraf Seminar Cyfraith Hywel yw’r gwaith ac mae’r gyfrol yn cynnwys golygiad o fersiwn mwyaf cyflawn y testun cyfraith yn llawysgrif Peniarth 164 (sef y copi ohono yn llawysgrif Peniarth 278) gyda rhagymadrodd llawn a nodiadau. Mae cynnwys a diwyg llawysgrif Peniarth 164 yn awgrymu iddi gael ei llunio gan weinyddwr yn un o arglwyddiaethau’r gogledd-ddwyrain yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar ddeg. Daw’r wobr hon o incwm cronfa a godwyd drwy danysgrifiadau cyhoeddus i goffáu dathlu milflwyddiant Hywel Dda yn 1928.

Meddai Dr Elias: ‘Mae’n fraint o’r mwyaf derbyn gwobr Hywel Dda gan Brifysgol Cymru. Diolch i’r beirniaid a diolch i aelodau Seminar Cyfraith Hywel am eu cefnogaeth’.  

Dyfarnwyd Gwobr Goffa Syr Ellis-Griffith i Dr Bleddyn Huws, Uwch Ddarlithydd yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth am ei waith Pris Cydwybod T H Parry-Williams a Chysgod y Rhyfel Mawra gyhoeddwyd gan y Lolfa. Mae’r gyfrol yn olrhain profiadau T. H. Parry-Williams fel gwrthwynebydd cydwybodol yn ystod y Rhyfel Mawr pan gafodd y bardd arobryn ac Athro yn y Gymraeg yn Aberystwyth ei erlid am ei gredoau personol, a’r effaith a gafodd y profiadau hynny ar ei fywyd personol a’i yrfa yn dilyn y rhyfel.

Meddai Dr Huws: “Rwy’n ei hystyried hi’n fraint ac yn anrhydedd derbyn y wobr hon. Mae’n gydnabyddiaeth werth ei chael, yn enwedig o wybod am y rhestr anrhydeddus o gyn-enillwyr y wobr. Cafodd llyfrau tra nodedig eu gwobrwyo yn y gorffennol, llyfrau y mae eu gwerth a’u pwysigrwydd yn parhau hyd heddiw. Mae cael fy llyfr ar y rhestr hon yn gwneud imi deimlo’n wylaidd iawn”.

Mae enillwyr y gorffennol yn cynnwys Dr Rhianedd Jewell am ei hastudiaeth ar waith cyfieithu  Saunders Lewis, yr Athro D. Densil Morgan am ei gyfrol ar Lewis Edwards, ysgolhaig mwyaf blaenllaw Cymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, Rhiannon Marks am ei chipolwg ar waith Menna Elfyn a’r Athro Emeritws Ceri W Lewis am ei waith ar y bardd a’r hynafiaethydd Iolo Morganwg.

Cyflwynir y wobr yn flynyddol o Gronfa Ellis-Griffith yn enw Prifysgol Cymru ar gyfer y gwaith gorau yn y Gymraeg am lenorion Cymraeg neu am eu gweithiau, neu am arlunwyr neu grefftwyr Cymreig neu eu gweithiau hwy. Daw’r Wobr o Gronfa a godwyd yn Sir Fôn ac yn Llundain yn bennaf i gofio enw’r diweddar Wir Anrhydeddus Syr Ellis Jones Ellis-Griffith MA KC PC (1860-1926), a fu’n Aelod Seneddol dros etholaeth Sir Fôn. 

Cyflwynwyd Dyfarniad / Gwobr Goffa Vernam Hull i Robin Chapman Stacey, Athro Hanes ym Mhrifysgol Washington, UDA, am ei llyfr, Law and the Imagination in Medieval Wales a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Pennsylvania 2018. Ynddo, mae’r Athro Stacey yn archwilio’r syniad o’r gyfraith fel math o ffuglen wleidyddol: corff o lenyddiaeth sy’n pylu’r ffiniau a dynnir yn gyffredinol rhwng y genres cyfreithiol a llenyddol. Mae’n dadlau bod ysgrifennu cyfreithiol, yn nhyb cyfreithyddion Cymru’r drydedd ganrif ar ddeg, yn genre llawn dychymyg a oedd yn hynod o ymatebol i bryderon cenedlgarol ac yn gallu eu hail-greu ar ffurf symbolaidd soffistigedig. Mae'r Athro Stacey yn dynodi dyfeisiau naratif a throsiadau a geir ar draws diwygiadau dilynol o’r testunau cyfreithiol, sy’n fframio’r corff fel rhywbeth sy’n gyfatebol i undod ac i’r llys, sy’n dynodi bod gwrywdod yn gyfystyr ag awdurdod a rheoli cyfiawn, a benywdod yn gyfystyr â’r gwrthwyneb i hynny, ac sy’n defnyddio disgrifiadau o dirweddau mewnol ac allanol fel metafforau ar gyfer diogelwch a pherygl, yn eu tro.

Daw Dyfarniad / Gwobr Goffa Vernam Hull o incwm cymynrodd o $10,000 i Brifysgol Cymru gan y diweddar Dr Vernam Edward Nunnemacher Hull (1894-1976), Athro mewn Ieithoedd Celtaidd ym Mhrifysgol Harvard, y dyfarnwyd iddo radd DLitt honoris causa gan Brifysgol Cymru ar achlysur y Gyngres Astudiaethau Celtaidd Ryngwladol yn 1963.

Meddai’r Athro Stacey: "Mae’n anrhydedd mawr derbyn y wobr hon ac rwy’n hynod o ddiolchgar i’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd ac i Brifysgol Cymru amdani.  Roedd yn llyfr llawn hwyl i'w ysgrifennu, ac rwy’n falch o wybod bod eraill wedi'i werthfawrogi. Diolch i bawb a fu'n ymwneud â'r gwaith, gan gynnwys arbenigwyr Gwasg Prifysgol Pennsylvania a wnaeth waith mor dda wrth ei gynhyrchu.

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori