Agor drysau swyddfeydd Geiriadur Prifysgol Cymru i groesawu Cyfeillion newydd

Wedi ei bostio ar 22 Mehefin 2017
Untitled-1

Ar ddydd Sadwrn, 17eg o Fehefin, cynhaliwyd lansiad swyddogol Cyfeillion Geiriadur Prifysgol Cymru, a chroesawyd cynulleidfa barchus i’r Drwm yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth i’r digwyddiad pwysig hwn yn hanes y Geiriadur.

Mary Williams, Golygydd Cynorthwyol Geiriadur Prifysgol Cymru, sy’n rhannu ei hargraffiadau o’r lansio ddydd Sadwrn:

“Cychwynnwyd y lansiad gan Arwel Ellis Owen (Cadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd), a fu’n trafod ein gair y dydd ar gyfer dydd Sadwrn, sef ‘noddwr’ – pwrpasol iawn a ninnau’n chwilio am gefnogwyr! Yna, cafwyd disgrifiad byr o sefyllfa bresennol y Geiriadur a’r cynlluniau at y dyfodol gan Andrew Hawke, y Golygydd Rheolaethol. Soniodd am sefydlu’r Cyfeillion ac esbonio mai bwriad pennaf y gymdeithas yw ennill criw o bobl yn llysgenhadon dros y Geiriadur – ffrindiau a fydd yn ein helpu i godi ymwybyddiaeth ohono ac annog defnyddwyr newydd, cyn mynd ymlaen i gyflwyno Llywydd y Cyfeillion, y Prifardd Myrddin ap Dafydd.

Bu Myrddin yn rhannu ei atgofion am gwsmeriaid siop lyfrau ei rieni yn Llanrwst a fyddai’n edrych ymlaen yn eiddgar at rifynnau newydd o’r Geiriadur yn ymddangos, i gael treulio oriau yn pori drwy’r cyfoeth rhwng y cloriau. Yn bysgotwyr, ffermwyr, siopwyr, seiri, athrawon, a gweinidogion ymysg eraill, roedd y Geiriadur yn ddiddanwch iddynt, fel ag y mae i Myrddin ap Dafydd heddiw. Dywedodd ei fod yn aml yn ymgolli yn y cyfrolau sydd ganddo yn ei swyddfa ac yn ei gartref – yn cael ei arwain o un erthygl i’r llall gan swyn y geiriau a’r trwch o wybodaeth am eu hanes, eu defnydd, a’u datblygiad. Cawsom ein tywys ganddo ar daith eiriadurol drwy fyd bragu cwrw – a diolchodd i Eiriadur Prifysgol Cymru ‘am gasgennu’r gorffennol i ddisychedu’r presennol ac am gyflwyno sacheidiau yn rhagor o haidd brag ar gyfer ei ddefnyddio yn y dyfodol’. (A hithau’n ddiwrnod mor braf, efallai ei fod wedi codi’r awydd am hanner bach o gwrw ar ambell un o’r gynulleidfa!)

Yn dilyn, bu’r Athro Dafydd Johnston yn sôn am y gair ‘bach’, gair cyffredin dros ben ond eto’n hynod o ddiddorol. Roedd Dafydd ap Gwilym yn hoff iawn o’i ddefnyddio, ac o’i farddoniaeth ef y daw’r enghreifftiau cynharaf o’r gair yn y Geiriadur. Mae’n debyg mai ‘bychan’ a ddefnyddid yn fwy ffurfiol cynt, a dyma enghraifft o arfer Dafydd ap Gwilym o ddefnyddio geiriau mwy anffurfiol yn ei waith.

Rhoddwyd cipolwg ar waith dyddiol y Geiriadur gan Dr. Angharad Fychan, un o’r Golygyddion Hŷn, a aeth ymlaen i esbonio sut mae’r gwaith wedi newid dros yr ugain mlynedd diwethaf. Yn dilyn datblygiadau technolegol, mae’r adnoddau digidol chwiliadwy sydd ar gael heddiw wedi trawsnewid a hwyluso ein ffordd o weithio, ond mae’r casgliad o 2.5 miliwn o slipiau wedi eu hel ynghyd dros gyfnod o ganrif yn dal mor bwysig ag erioed. Soniodd hefyd am ein hymgeision i gryfhau ein cyswllt â’r cyhoedd drwy gyfrwng Gair y Dydd ar Facebook, Clecs, a Twitter – cyswllt sy’n medru gweithio ddwy ffordd fel y cawn atborth i’r geiriau. I gloi, bu’n trafod y peryg o golli ein geiriau tafodieithol fel canlyniad i unffurfio iaith, gan annog ein cyfeillion a’r cyhoedd i ddefnyddio eu geiriau tafodieithol gyda balchder a rhoi gwybod i’r Geiriadur amdanynt i ni fedru eu cofnodi.

I gloi’r digwyddiad, braf oedd gweld cyn aelod o’r staff, Tegwyn Jones, wedi dod i’n cefnogi gan ddifyrru’r gynulleidfa wrth drafod enwau lleoedd ei ardal enedigol, Pen-bont Rhydybeddau a’r cylch. Nid ffeithiau moel yn unig oedd ganddo, ond ambell i stori neu hanesyn diddorol a diddan am y bobl a drigai yn y lleoedd dan sylw – yr hanesion hyn yn bwythau hyfryd i gyfoethogi tapestri hanes ardal.

Wedi’r sgyrsiau, cafwyd cyfle i ymweld â swyddfeydd y Geiriadur ac i gymdeithasu dros ’baned o de. Da gweld cynifer â diddordeb yn ein gwaith – mae’n deimlad braf gwneud cyfeillion newydd!  Mae croeso i unrhyw un ymuno â’r Cyfeillion – rydym yn falch dros ben i gael cymhorthiaid i hyrwyddo a gwarchod y Geiriadur!”

Am ragor o wybodaeth am Eiriadur Prifysgol Cymru a ‘Chyfeillion y Geiriadur’, gan gynnwys gwybodaeth ar sut i ymaelodi, ewch i wefan y Geiriadur:  www.geiriadur.ac.uk/cyfeillion-y-geiriadur/, e-bostiwch cyfeilliongeiriadur.ac.uk, neu ffoniwch 01970 639094.

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori

In: Newyddion a Digwyddiadau