Wedi ei bostio ar 27 Gorffennaf 2016
Ar drothwy Prifwyl Y Fenni gwych nodi fod ymhlith erthyglau newydd Geiriadur Prifysgol Cymru nifer o eiriau perthnasol i eisteddfodwyr. Y tebyg yw y bydd yn rhaid i bob jolihoetiwr bacio jîns, lonjyri, miwsli ac efallai leotard, crys lymberjac neu napi cyn dod – boed yn cyrraedd y maes mewn jymbo-jet, jîp, leiner, moped neu limwsîn. Ar ôl cyrraedd y jamborî fe fydd rhaid mewnanadlu ambell lansiad, lobïo rhywfaint ac yna cyfarfod â’r nofelydd neu’r nofelwraig a fydd yn ennill Gwobr Goffa Daniel Owen. Cyfle wedyn, efallai, ar ôl llenalwad neu ddwy, i lafareiddio ac i gwrdd ag ambell oböydd neu libretydd llygadus a phrynu lamplenni ac yna mynd i’r bar i fwynhau lager a chwmni ambell facswr, jociwr, siaradwr jargon neu loetrwr (nid noethwibiwr na mygiwr gobeithio) cyn mynd i’r jacwsi yn iwtiliti y loj la-di-da. Go brin y bydd yno jiwcbocs ond mae yno beiriant llungopïo ac fe fydd cyfle i logio mewn i gyfrifiadur ac i wrando ar leisbost. Heb os, fe fydd logisteg yr ymweliad yn o gymhleth ac mi all arwain at lesteiriant dirfawr ac ni fydd methadon na mariwana ar gyfyl y lle! Ydynt, mae’r geiriau hyn i gyd ymhlith y rhai sydd newydd gael eu hychwanegu at Eiriadur Prifysgol Cymru. Difyr nodi fod newyddair hefyd yn un o’r geiriau.
“Yr hyn sy’n ddiddorol,” medd Andrew Hawke, Golygydd Rheolaethol y Geiriadur, “yw bod enghreifftiau cynharaf rhai o’r geiriau yma i’w gweld ym mhapurau newydd a chylchgronau y bedwaredd-ganrif-ar-bymtheg – ymddengys y gair lansiad, er enghraifft, yn Y Gwladgarwr ym Medi 1859 a’r gair nofelwraig yn Baner ac Amserau Cymru yn 1877. Down ar draws y gair jîns gyntaf yn y cylchgrawn Hamdden yn 1965.”
Wrth i Undeb Cymru a’r Byd baratoi i groesawu cyfeillion o bob cwr i’r Eisteddfod, braf nodi fod y Geiriadur hefyd yn cynnwys pentwr o eiriau newydd cysylltiedig â gwledydd. Yn eu plith mae Iorddonaidd, Iraciad, Isalmaenig, Iseldiraidd, Iwgoslafaidd, Libaniad, Lwcsembwrgaidd, Maleisaidd, Maltaidd, Mecsicanwr, Moldafiad a Nicaragwad.
Y tro hwn, yn ogystal, ychwanegwyd nifer o eiriau sy’n cynnwys y rhagddodiaid is a lled. Y tueddiad yn argraffiad cyntaf Geiriadur Prifysgol Cymru oedd cynnwys nodyn moel yn dweud bod is-bennaeth, er enghraifft, yn gyfuniad o is-+pennaeth ond bellach mae is-bennaeth a nifer o eiriau eraill megis isbennawd, isblot, isgasgliad ac isoruchwyliwr wedi eu cynnwys fel erthyglau llawn. Daw’r enghraifft gynharaf o is-bennaeth o’r Gwyliedydd yn 1832.
Mae Geiriadur y Brifysgol (http://gpc.cymru) wedi bod ar lein ers mis Mehefin 2014 ac ym mis Chwefror eleni fe alluogodd nawdd ariannol gan Lywodraeth Cymru i ap y Geiriadur weld golau dydd. Mae’r dechnoleg ddiweddaraf yn golygu bod modd ychwanegu unrhyw air ar unrhyw adeg.
Bydd modd clywed mwy am y geiriau diweddaraf ym mhabell Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ddydd Iau am hanner dydd. Os am fwy o wybodaeth neu os am drefnu cyfweliad cysylltwch â Sarah Down-Roberts - sdr@geiriadur.ac.uk neu 07773 470649
Geiriadur Prifysgol Cymru Ar Lein - http://gpc.cymru
Gwefan Geiriadur Prifysgol Cymru - http://www.geiriadur.ac.uk
@geiriadur ar Twitter (https://twitter.com/geiriadur)
@geiriadur ar Clecs (https://www.clecs.cymru)
Geiriadur Prifysgol Cymru ar Facebook (https://www.facebook.com/geiriadurGPC/)