Bydd Dr Mary-Ann Constantine yn cyflwyno Darlith O'Donnell 2017 ym Mhrifysgol Rhydychen

Wedi ei bostio ar 8 Mai 2017
CaernarfonBay-960width

Moses Griffith, Castell Caernarfon (Llyfrgell Genedlaethol Cymru)

Y dydd Gwener hwn (12 Mai), bydd Dr Mary-Ann Constantine yn traddodi Darlith O'Donnell 2017 ym Mhrifysgol Rhydychen.

Sefydlwyd Darlithoedd O’Donnell mewn Astudiaethau Celtaidd yn 1954 i anrhydeddu Charles James O’Donnell. Dan delerau ei gymynrodd gall y darlithoedd archwilio elfennau Prydeinig neu Geltaidd yn yr iaith Saesneg neu ym mhoblogaeth bresennol Lloegr. Cyflwynwyd darlith gyntaf O’Donnell gan J.R.R. Tolkien, a benodwyd yn 1954 ac a siaradodd ar English and Welsh.

Mae Dr Constantine yn Ddarllenydd yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, ac yn Brif Ymchwilydd ar y prosiect ymchwil mawr a gyllidwyd gan yr AHRC Teithwyr Chwilfrydig: Thomas Pennant a Theithiau yng Nghymru a’r Alban (1760-1820).

Gan dynnu ar waith y prosiect, bydd Dr Constantine yn traddodi darlith sy’n edrych ar Brydeindod, gyda’r teitl Curious Traveller: Britain, Britons and Britishness in Thomas Pennant’s 'Tours'.

Lansiwyd y prosiect pedair blynedd yn 2014 a chaiff ei redeg ar y cyd gan y Ganolfan Uwchefrydiau a Phrifysgol Glasgow, ac mae’n cynnwys trawsgrifio gohebiaeth enfawr a gwasgaredig Pennant, yn ogystal â chyhoeddi nifer o deithiau diweddarach yng Nghymru a’r Alban. Gan edrych ar ddiddordebau eang Pennant ei hun, mae hwn yn brosiect rhyngddisgyblaethol, sy’n edrych ar agwedd y cyfnod at yr ‘ymylon’ Prydeinig drwy gelf, llenyddiaeth, hanes, hynafiaeth a’r gwyddorau naturiol. Caiff nifer o’r themâu hyn sylw mewn llyfr newydd o ysgrifau a gyd-olygwyd gan Dr Constantine a’r Athro Nigel Leask, sydd newydd ei gyhoeddi gan Anthem Press - Enlightenment Travel and British Identities: Thomas Pennant’s Tours in Scotland and Wales.  

Wrth sôn am y ddarlith a’r testun, dywedodd Dr Constantine:

“Mae’r cysyniad o Brydain a natur hunaniaeth Brydeinig yn amlwg iawn yn ein meddyliau (a’n papurau newydd) ar hyn o bryd. Bydd y ddarlith hon yn edrych ar syniadau am hanes y gwahanol genhedloedd a diwylliannau yn Ynysoedd Prydain yn y ddeunawfed ganrif, gan ddangos bod twristiaid a theithwyr yn dod â’u cysyniadau eu hunain o ‘Brydeindod’ gyda nhw wrth edrych ar y golygfeydd a’r safleoedd y daethon nhw ar eu traws – yn enwedig yng Nghymru. Sut roedd yr ‘Home Tour’ yn datgelu – neu’n cuddio – straeon ein gorffennol amlddiwylliannol cymhleth?”

Cynhelir y ddarlith am 17:30 yn Narlithfa 2 y Gyfadran Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, Prifysgol Rhydychen.

Ceir rhagor o wybodaeth am brosiect Teithwyr Chwilfrydig ar eu gwefan - www.curioustravellers.ac.uk

Ceir rhagor o wybodaeth am y gyfrol newydd o ysgrifau ar wefan Anthem Press- http://www.anthempress.com/enlightenment-travel-and-british-identities

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori

In: Newyddion a Digwyddiadau