Y Ganolfan Uwchefrydiau'n cyhoeddi enillwyr dwy wobr lenyddol y Brifysgol

Wedi ei bostio ar 12 Awst 2016

Mae’n bleser gan y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd gyhoeddi enillwyr Gwobr Goffa Vernam Hull 2015 a Gwobr Goffa Syr Ellis Griffith 2015. Y Ganolfan sy’n gweinyddu’r ddwy wobr, sy’n cydnabod ac yn amlygu gwaith y bernir ei fod o’r ansawdd uchaf ym maes cyhoeddi ymchwil yng Nghymru.

Dyfernir Gwobr Goffa Vernam Hull ynghyd â £1,000 am waith cyflawn sy’n ymdrin â Rhyddiaith Gymraeg cyn 1700, neu er mwyn galluogi ymchwil neu astudiaeth yn y maes, ac fe’i dyfarnwyd y tro hwn i’r Athro Ceri Davies, Athro Emeritws y Clasuron ym Mhrifysgol Abertawe am ei gyhoeddiad John Prise. Historiae Britannicae Defensio / A Defence of the British History (PIMS, 2015).

Mae’r Athro Davies, a raddiodd yn y Clasuron o Brifysgol Cymru a Phrifysgol Rhydychen, wedi ysgrifennu’n helaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg ar y derbyniad i lenyddiaeth Groeg a Lladin yng Nghymru ac yn enwedig ar ysgrifenwyr Lladin o Gymru yn y 16eg a’r 17eg ganrif.

Roedd Syr John Prise yn gyfreithiwr a gweinyddwr dylanwadol yn ystod teyrnasiad Harri VIII, Edward VI a Mari I, ac mae Historia Britannicae Defensio, a gyhoeddwyd yn 1573, ar ôl iddo farw, yn un o destunnau allweddol y 16eg ganrif. Gan dynnu ar y ddwy lawysgrif tyst sy’n goroesi yn ogystal â’r testun gwreiddiol a argraffwyd, mae’r golygiad a’r cyfieithiad cywrain hwn gan yr Athro Davies yn golygu bod y Defensio yn hygyrch i ddarllenwyr modern am y tro cyntaf.

Dyfarnwyd Gwobr Goffa Syr Ellis Griffiths i Dr A. Cynfael Lake. Dyfernir y wobr o £250 i unigolyn sydd, ym marn y beirniaid, wedi cynhyrchu’r gwaith gorau yn Gymraeg am awduron sy’n ysgrifennu yn Gymraeg neu eu gwaith, neu ar artistiaid neu grefftwyr Cymreig, neu eu gwaith.

Derbyniodd Dr Lake y wobr am y cyhoeddiad Gwaith Hywel Dafi I a II (Y Ganolfan, 2015), golygiad o farddoniaeth Hywel Dafi, a gyhoeddwyd fel rhan o gyfres Beirdd yr Uchelwyr y Ganolfan. Er iddo fod yn un o feirdd mwyaf cynhyrchiol y bymthegfed ganrif, sef ‘Oes Aur’ llenyddiaeth Gymraeg, nid yw ei waith wedi’i olygu na’i gyhoeddi cyn hyn. Mae’r cyhoeddiad hwn felly’n llenwi bwlch amlwg ac yn talu sylw dyledus i fardd pwysig sydd wedi’i anwybyddu i raddau helaeth.

Mae Dr Lake yn ddarllenydd yn Adran y Gymraeg, Academi Hywel Teifi ym Mhrifysgol Abertawe. Mae’n arbenigwr ar waith Huw Jones o Langwm, un o’r awduron baledi ac anterliwtiau mwyaf adnabyddus yn y 18fed ganrif, ac mae wedi golygu cerddi nifer o feirdd Canoloesol eraill, sydd, fel Gwaith Hywel Dafi, wedi’u cyhoeddi yn yr un gyfres.

Llongyfarchiadau i’r ddau enillydd.

/Diwedd

Darperir Gwobr Goffa Vernam Hull drwy incwm o Gymynrodd o ddeng mil o ddoleri gan y diweddar Dr Vernam Edward Nunnemacher Hull (1894-1976), Athro’r Ieithoedd Celtaidd ym Mhrifysgol Harvard. Dyfarnwyd gradd DLitt honoris causa gan Brifysgol Cymru i Dr Hull yn y Gyngres Astudiaethau Celtaidd Ryngwladol yn 1963.

Darperir Gwobr Syr Ellis Griffith o Gronfa a sefydlwyd yn bennaf yn Sir Fôn ac yn Llundain er cof am y diweddar Gwir Anrhydeddus Syr Ellis Jones Ellis Griffith MA KC PC (1860-1926), cyn Aelod Seneddol a fu’n cynrychioli Sir Fôn am flynyddoedd lawer. 

Am ragor o wybodaeth am y gwobrau, cysylltwch â’r Ganolfan – www.cymru.ac.uk/Canolfan
Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori

In: Newyddion a Digwyddiadau