Wedi ei bostio ar 26 Hydref 2017
Mae Miracles & Murders: An Introductory Anthology of Breton Ballads gan Mary-Ann Constantine, Darllenydd yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru ac Éva Guillorel (Prifysgol Caen) ar y rhestr fer eleni am wobr Katharine Briggs am hanes gwerin.
Sefydlwyd y wobr lyfryddol flynyddol yn y 1980 gan y Folklore Society i goffáu bywyd a gwaith yr ysgolhaig nodedig Katharine Mary Briggs (1898–1980; Llywydd y Gymdeithas 1969–72). Ei nod yw annog astudiaethau hanes gwerin, helpu i wella safon cyhoeddiadau hanes gwerin ym Mhrydain ac Iwerddon, a sefydlu’r Folklore Society fel lladmerydd rhagoriaeth.
Mae’r gyfrol gydweithredol, a gyhoeddwyd gan yr Academi Brydeinig, yn codi o gysylltiadau hirsefydlog y Ganolfan Uwchefrydiau gydag ysgolheigion o Lydaw ac mae’n cynnig cyflwyniad llachar i un o’r traddodiadau cân mwyaf difyr yn Ewrop, er nad oes llawer yn gwybod amdano, sef y gwerz Llydewig.
Mae’r caneuon naratif hyn a gasglwyd yng ngorllewin Llydaw rhwng y 19eg ganrif a’r presennol, yn adrodd cyfoeth o straeon yn seiliedig ar ddigwyddiadau neu chwedlau lleol trasig. Maent yn sôn am longddrylliadau, herwgydio, llofruddiaethau, achub gwyrthiol, eneidiau edifeiriol a theithiau rhyfeddol, a hynny mewn penillion clir, syml yn llawn delweddau trawiadol.
Wrth sôn am yr enwebiad dywedodd Dr Constantine:
“Mae’n wych cael enwebiad am y wobr a gweld pynciau o faes Astudiaethau Celtaidd yn cyrraedd cynulleidfaoedd ehangach; ein gobaith yw y bydd ein casgliad yn helpu mwy o bobl i ddarganfod y baledi rhyfeddol hyn a’r cymunedau a’u creodd.”
Caiff enillydd y wobr ei gyhoeddi mewn derbyniad yn dilyn Darlith Flynyddol Katharine Briggs a gynhelir eleni yn Sefydliad Warburg yn Llundain ar 8 Tachwedd. Y brif wobr yw’r Dyfarniad ei hun, ond bydd yr awdur buddugol hefyd yn cael ffiol ysgythredig a siec am £200.
Ar 20 Tachwedd, bydd Dr Constantine yn siarad am y gwerziou fel rhan o ŵyl ‘Being Human’ yr Academi Brydeinig. Bydd y digwyddiad yn dechrau am 6:30pm, ac yn cynnwys darlith gan Dr Constantine a pherfformiad o faledi Llydewig yn ogystal â chyfle i roi cynnig ar ddawnsio traddodiadol Llydewig. I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan yr Academi Brydeinig - https://www.britac.ac.uk/events/breton-ballads