Lansio 'Cyfeillion y Geiriadur'

Wedi ei bostio ar 5 Mehefin 2017
AJ3P3320

Ar ddydd Sadwrn, 17 Mehefin, bydd Geiriadur Prifysgol Cymru yn lansio cynllun ‘Cyfeillion y Geiriadur’, ar gyfer pawb sy’n gwerthfawrogi’r Geiriadur ac sydd am ei weld yn parhau ac yn ffynnu yn y dyfodol.

Cynhelir y digwyddiad yn y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth am 2pm, a bydd yn cynnwys prynhawn o sgyrsiau difyr, lluniaeth ysgafn a’r cyfle i ymweld â swyddfeydd y Geiriadur. Mae’r digwyddiad am ddim ac mae croeso i bawb.

Llywydd y Cyfeillion yw’r Prifardd, awdur, dramodydd, a chyhoeddwr adnabyddus, Myrddin ap Dafydd, a fydd, ynghyd â siaradwyr eraill, yn ein diddori gan gyflwyno eitemau difyr ac ysgafn. Bydd cyfle i gwrdd â’r staff, ac i ddarganfod ychydig am y Geiriadur a sut mae’n berthnasol ac yn eiddo i bawb yng Nghymru.

Geiriadur Prifysgol Cymru yw unig eiriadur hanesyddol Cymraeg safonol yr iaith Gymraeg. Gellir ei gymharu’n fras o ran ei ddull a’i gwmpas â’r Oxford English Dictionary. Mae’n cyflwyno geirfa’r iaith Gymraeg o’r testunau Hen Gymraeg cynharaf hyd at iaith bob dydd heddiw. Olrheinir dyddiad cynharaf pob gair gydag enghreifftiau o’r gair ar hyd y canrifoedd gan ddangos, yn aml, sut y mae’r gair wedi newid ei ystyr. Yn y fersiwn ar lein fe fydd modd i’r darllenydd weld tarddiad, diffiniad Cymraeg a chyfystyron Saesneg gair ynghyd ag enghreifftiau hanesyddol. Mae modd hefyd chwilio am ystyron Saesneg.

Sefydlwyd cynllun darllen y Geiriadur yn 1921 fel prosiect ymchwil cyntaf Bwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru. Casglwyd bron i ddwy filiwn o slipiau a fyddai’n sylfaen i’r Geiriadur. Dechreuwyd ar y gwaith golygu yn 1948 ac yn 1967 cyhoeddwyd cyfrol gyntaf y Geiriadur (a–ffysur). Cyhoeddwyd yr olaf o’r pedair cyfrol (s–Zwinglïaidd) yn 2002 ac ers hynny mae’r tîm, sy’n gweithio yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Aberystwyth, wedi bod yn ailolygu’r Geiriadur ac wedi cyhoeddi deuddeg rhifyn o’r Ail Argraffiad (a–brig) ynghyd ag ychwanegu rhyw fil a hanner o eiriau newydd ar draws yr wyddor.

Mae’r Geiriadur wedi bod ar lein er Mehefin 2014 ac fe’i cyhoeddwyd fel ap ar gyfer ffonau symudol a thabledi ym mis Chwefror, 2016.

Prif amcan y Cyfeillion yw cyflwyno Geiriadur Prifysgol Cymru i’r gynulleidfa ehangaf posibl yma yng Nghymru ac ar draws y byd.

Wrth siarad am y cynllun, dywedodd Andrew Hawke, y Golygydd Rheolaethol:

“Dros ganrif bron, mae llawer o gyfeillion, cymwynaswyr, a chefnogwyr wedi bod gan y Geiriadur, yn ogystal â darllenwyr gwirfoddol sydd wedi darparu llawer o’r dystiolaeth a ddyfynnir yn y gwaith a phrawfddarllenwyr sydd wedi sicrhau ei gywirdeb. Mae’n hyfrydwch cael croesawu ein cefnogwyr i’r Llyfrgell Genedlaethol  a’n swyddfeydd i ddangos ein gwerthfawrogiad o’u cefnogaeth. Ein gobaith yw y bydd ein Cyfeillion yn cyflwyno llawer o bobl eraill i bleserau’r Geiriadur a helpu i’w gynnal dros y blynyddoedd i ddod.”

Am ragor o wybodaeth am Eiriadur Prifysgol Cymru a ‘Chyfeillion y Geiriadur’, gan gynnwys gwybodaeth ar sut i ymaelodi, ewch i wefan y Geiriadur:  www.geiriadur.ac.uk/cyfeillion-y-geiriadur/

Fel arall, gallwch gysylltu drwy e-bost: cyfeilliongeiriadur.ac.uk, neu ffoniwch 01970 639094.

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori

In: Newyddion a Digwyddiadau