Enwebu cyn-fyfyriwr PC am Wobr Arloesi Affrica

Wedi ei bostio ar 16 Mehefin 2016
Dr Youssef Rashed

Dr Youssef Rashed

Ddechrau mis Mai, cyhoeddodd Sefydliad Arloesi Affrica y deg enwebai uchaf ar gyfer ei raglen arloesi nodedig, Gwobr Arloesi Affrica. Yn eu plith oedd cyn-fyfyriwr o Brifysgol Cymru, Dr Youssef Rashed.

Sefydlwyd y Sefydliad Arloesi yn 2009, i helpu i gynnal arloesi a chefnogi datblygu cynaliadwy yn Affrica. Ei ddiben yw cynyddu llewyrch pobl Affrica drwy sbarduno ysbryd o arloesi drwy’r Wlad. Y Wobr, sydd bellach yn dathlu ei phumed flwyddyn dan y thema ‘Gwnaed yn Affrica’, yw’r fenter arloesi fwyaf ar gyfandir Affrica, gan gynnig cyfran o wobr o 150,000 o ddoleri UDA a chymhelliannau i sbarduno twf a llewyrch yn Affrica gyda datrysiadau a grëir ar lawr gwlad.

Mae’r nifer o geisiadau am y Wobr wedi tyfu’n aruthrol fel y mae’r diddordeb ynddi a derbyniwyd 985 o gyflwyniadau llwyddiannus i wobr 2016 o 46 o wledydd Affrica. Mae dyfeisgarwch Affricanaidd eleni’n dangos datblygiadau newydd o ran malaria a materion iechyd cyhoeddus eraill, datrysiadau clyfar i ffermwyr a mentrau ynni dynamig.

Mae Dr Youssef Rashed ymhlith y deg enwebai uchaf am ei Becyn Plât arloesol (PLPAK), datrysiad meddalwedd cryf sy’n asesu pensaernïaeth cynlluniau adeiladu neu ddarluniau technegol gan bennu unplygrwydd strwythurol y dyluniad terfynol. Mae hyn yn galluogi peirianwyr i osod slabiau adeiladu dros fodelau sylfaen soffistigedig yn rhwydd, gan adeiladu technegau modelu gwybodaeth adeiladu a gwaredu gwallau dynol.

Gyda thwf cyflym dinasoedd Affrica, ceir galw cynyddol am ddatblygiadau seilwaith i gynnal y boblogaeth sy’n tyfu. Mae system seilwaith Affrica, yn enwedig pensaernïaeth adeiladu, yn tueddu i beidio â chael ei brofi oherwydd y costau enfawr ynghlwm â dilysu unplygrwydd strwythurol, a gall arwain at adeiladau’n cwympo gyda chanlyniadau trasig weithiau. Nod PLPAK yw delio â hyn drwy fod yn offeryn cost isel, hylaw o safon fyd-eang.

Graddiodd Dr Rashed gyda gradd MSc o Brifysgol Cairo ac aeth yn ei flaen i dderbyn PhD o Brifysgol Cymru yn 1997, gan astudio yn y Wessex Institute of Technology. Ar hyn o bryd mae’n athro peirianneg strwythurol ym Mhrifysgol Cairo.

Bydd Sefydliad Arloesi Affrica yn cynnal seremoni wobrwyo 2016: Gwnaed yn Affrica ar 23 Mehefin yn Gaborone, Botswana. Mae’r digwyddiad arloesi hwn yn derbyn cefnogaeth Ei Ardderchowgrwydd y Rhaglaw Cyffredinol Seretse Khama Ian Khama, Arlywydd Botswana, a fydd yn llywyddu yn y Seremoni Wobrwyo. Mae partneriaid cydweithio’n cynnwys y Weinyddiaeth Seilwaith, Gwyddoniaeth a Thechnoleg a Hwb Arloesi Botswana.

Wrth sôn am y fenter, dywedodd Pauline Mujawamariya Koelbl, Cyfarwyddwr Gwobr Arloesi Affrica: "Dros y pum mlynedd ddiwethaf rwyf i wedi gweld arloesi’n cynyddu o fod yn air poblogaidd i fod yn llwybr cadarn ar gyfer twf yn Affrica mewn diwydiannau amlddisgyblaethol ar draws y cyfandir. Fel Affricanwyr, mae gennym dalent, potensial a gallu i ddatrys ein problemau ein hunain yn ddychmygus, ac mae’r Wobr yn tystio i hyn.”

I gael rhagor o wybodaeth am y wobr a rhestr lawn o enwebeion ewch i - http://innovationprizeforafrica.org/

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori

In: Newyddion a Digwyddiadau