Wedi ei bostio ar 9 Mai 2017

Yr Elbphilharmonie, Hamburg
Bydd symposiwm blynyddol 2017 Cangen Cyn-fyfyrwyr yr Almaen ar 20 - 21 Mai yng ngwesty hanesyddol y Reichshof yn Hamburg. Mae hwn yn ddigwyddiad pwysig, ac yn gyfle rhagorol i aelodau ddod ynghyd, gan gynnig cyfleoedd rhwydweithio ac adnodd academaidd sylweddol i Gyn-fyfyrwyr Almaenig Prifysgol Cymru a graddedigion sy’n siarad Almaeneg ac sy’n dal dyfarniadau Prifysgol Cymru.
Bydd agenda’r penwythnos fel a ganlyn:
Sadwrn 20 Mai 2017
09:15 Cyfarfod
09:45 Croeso a chyflwyniadau gan Dr. Martina Nieswandt, Llywydd Cangen yr Almaen
10:00 Die Energiestrategie der METRO GROUP zur Umsetzung der gesellschaftlichen und rechtlichen Anforderungen an ein international tätiges Handelsunternehmen - Papur gan Olaf Schulze, Cyfarwyddwr Energy Management Metro Group.
11:00 BREXIT, sorry for all the fuss! - Papur gan yr Athro Dr Simon Jones.
12:00 Cinio
13:30 Cyfarfod Blynyddol Aelodau’r Cyn-fyfyrwyr (gydag agenda ar wahân)
15:00 Coffi
15:30 Brexit real: Umsetzung, Auswirkungen und Chance - Papur gan Dr Jörg Klaus Baumgart
19:30 Derbyniad Diodydd
20:00 Cinio Hwyliog
Sul 21 Mai 2017
Yn dilyn y symposiwm blynyddol, mae’r Gangen wedi trefnu taith o gwmpas yr Elbphilharmonie sydd newydd ei adeiladu, un o’r neuaddau cyngerdd mwyaf a mwyaf datblygedig o ran acwsteg drwy’r byd. Fe’i hagorwyd ym mis Ionawr, ac mae’r adeilad nodedig hwn ym mharth HafenCity y ddinas yn cynnwys dwy neuadd gyngerdd, gwesty a Plaza, sy’n cynnig golygfa 360° ysblennydd o’r ddinas a’r harbwr.
Fel sy’n digwydd bob blwyddyn, mae’n addo bod yn ddigwyddiad addysgol a chofiadwy, ac mae croeso i holl Gyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru ymuno. Ceir rhagor o wybodaeth a manylion cyswllt ar y wefan - www.alumni-wales.de
Gyda thros 220 o aelodau unigol, mae’r gangen yn cynnig adnodd academaidd sylweddol gydag aelodau o gefndir cyfoethog ac amrywiol mewn busnes ac academia.
Ymhlith yr aelodau mae Dr. Martina Nieswandt, Llywydd y Gangen, sydd yn ddiweddar wedi cyd-awduro cyhoeddiad o’r enw Laterales Management.
Gan nodi y bydd digido dros y blynyddoedd nesaf yn newid yr economi a chymdeithas yr un mor ddramatig ag y gwnaeth trydan ganrif yn ôl, mae Dr Nieswandt a’i chydawdur Roland Geschwill yn cynnig y bydd trefniadaeth hierarchaidd yn cael ei ddisodli gan drefniadaeth ochrol. Gan ddadansoddi beth y gallai hyn ei olygu i amodau gwaith yn y dyfodol, maen nhw’n amlygu’r cyfleoedd y mae proses digido’n ei gynnig i gwmnïau, pobl a rheolwyr - y cyfle am fwy o ryddid, mwy o unigoliaeth, mwy o greadigrwydd ac arloesedd.
Cyd-sylfaenwyr Denkwerkstatt fur Manager, busnes ymgynghori rheoli a cheir rhagor o wybodaeth am y cyhoeddiad a’u gwaith ar eu gwefan - http://www.denkwerkstatt-manager.de/en/publications/index