Dathlu Graddedigion newydd yn Sbaen

Wedi ei bostio ar 25 Medi 2017
ESCO Graduates

Ar ddiwedd mis Mehefin, cynhaliwyd dathliad graddio ym mhencadlys CajaGRANADA i fyfyrwyr Escuela Superior de Comunicación y Marketing de Granada (Ysgol Cyfathrebu a Marchnata Granada a elwir yn ESCO). Ymhlith y rhai oedd yn graddio roedd myfyrwyr a fu’n astudio ar gynlluniau dyfarniadau Cyfathrebu Prifysgol Cymru, gan gynnwys BA (Anrh) mewn Newyddiaduraeth, BA (Anrh) mewn Cyfathrebu Clywedol a BA (Anrh) mewn Hysbysebu a Chysylltiadau Cyhoeddus.

Anrhydeddwyd cyfanswm o 16 fyfyrwyr y Rhaglenni BA, y 13eg garfan i dderbyn y radd ers dechrau’r rhaglenni, gan eu teuluoedd, athrawon a staff ESCO Granada. Yn llywyddu dros y seremoni roedd y newyddiadurwr a’r awdur adnabyddus, Marta Fernández, a’r cyfarwyddwr ffilm Emilio Egea sydd hefyd yn un o athrawon ESCO, Granada.

Bu’r Pennaeth Gweithrediadau ac Adnoddau, Linda Davies, yn cynrychioli Prifysgol Cymru yn y digwyddiad. Wrth siarad yn y seremoni bu’n llongyfarch y myfyrwyr ar eu gwaith caled a’u llwyddiant, gan ddweud:

“Mae eich dathliad graddio’n cynnig cyfle i’ch ffrindiau, partneriaid a theulu i rannu eich llwyddiannau a chael cydnabyddiaeth am eu cymorth a’u cyfraniadau. Gall pob un o’r myfyrwyr fod yn falch o’u hymdrechion a’u cyflawniadau ac rwyf i’n siŵr y bydd y sgiliau a gafwyd yn ystod eich amrywiol gyrsiau yn werthfawr iawn i chi wrth i’ch gyrfaoedd ddatblygu yn y dyfodol.”

I’r graddedigion hynny sydd nawr wedi cwblhau eu hastudiaethau’n llwyddiannus, mae’r Brifysgol wrth ei bodd yn eich gwahodd i gofrestru gyda Chymdeithas Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru ac ymuno â’r miloedd o raddedigion eraill y Brifysgol yn y rhwydwaith byd-eang hwn.

I gael rhagor o wybodaeth am y Gymdeithas Cyn-fyfyrwyr a chofrestru eich manylion ewch i wefan y Brifysgol: www.cymru.ac.uk/Cofrestru

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori

In: Newyddion a Digwyddiadau