Wedi ei bostio ar 1 Chwefror 2017
Mae Cangen Bangor Cymdeithas Graddedigion Prifysgol Cymru’n parhau â’i rhaglen o ddarlithoedd yn 2016/17 gyda dwy ddarlith a drefnwyd ar gyfer y tymor hwn.
10 Chwefror 2017
Traddodir y gyntaf ohonynt gan y newyddiadurwr Tweli Griffiths, a fydd yn trafod agweddau ar ei lyfr, Yn ei Chanol Hi, ynghyd â’r sefyllfa wleidyddol gyfnewidiol sydd ohoni.
3 Mawrth 2017
Bydd yr ail ddarlith gan Wil Aaron, y cyfarwyddwr a’r cynhyrchydd teledu, yn seiliedig ar ei lyfr yntau, Poeri i Lygad yr Eliffant, sy’n trafod antur y Mormoniaid o Gymru yng Ngorllewin Unol Daleithiau’r America.
Cynhelir y darlithoedd, a draddodir yn Gymraeg, yn Narlithfa Syr Ifor Williams, sef Darlithfa 4, Adeilad Newydd y Celfyddydau, Prifysgol Bangor. Bydd y darlithoedd yn dechrau am 5:30pm ac estynnir croeso cynnes i bawb.
Gyda dau ddarlithydd diddorol a gwybodus yn siarad ar bynciau a gwledydd sydd yn y newyddion yn barhaus ar hyn o bryd, mae’n siŵr y bydd y digwyddiadau’n nosweithiau difyr ac addysgol, ac mae Cangen Bangor yn edrych ymlaen at eich gweld chi yno.