Mae gan Brifysgol Cymru ddull gweithredu penodol i fyfyrwyr sy’n dymuno gwneud cwyn neu gyflwyno apêl academaidd.
Apeliadau gan Fyfyrwyr
Am ragor o wybodaeth ar y dull gweithredu, yn cynnwys meini prawf ac asesiad, neu i gyflwyno apêl cliciwch ymaneu cysylltwch â appeals@cymru.ac.uk
Cwynion gan Fyfyrwyr
Fe ddylech geisio datrys unrhyw anawsterau’n uniongyrchol gyda’ch sefydliad ble bynnag y bo hynny’n bosib. Os nad yw hynny’n bosib, gellir defnyddio dull gweithredu Cwynion Myfyrwyr y Brifysgol os ydych yn dymuno cwyno ynglŷn ag agweddau o’ch profiad astudio sydd ddim yn berthnasol i asesiad neu arholiadau. Am ragor o wybodaeth cliciwch ymaneu cysylltwch â complaints@cymru.ac.uk