Digwyddiadau ac Achlysuron

Mae Canolfan Dylan Thomas yn lleoliad amlbwrpas sy’n cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau ac achlysuron.
Gall y Ganolfan gynnal cyfarfodydd busnes bach ar gyfer hyd at 20 o bobl mewn ystafelloedd cyfarfod pwrpasol, fel Ystafell Carter, yn ogystal â sesiynau trafod mewn amgylcheddau agored fel yr Ystafell Digwyddiadau Graddfa 2* llawn cymeriad a chyfaredd, sy’n gallu dal hyd at 200 o westeion, a’r Llofft Ganol.
Gall busnesau hefyd fanteisio ar gyfleusterau cynadledda gwe pwrpasol, sy’n hanfodol ym marchnad fyd-eang brysur ein hoes.
Ceir theatr ysblennydd yn y Ganolfan hefyd â lle i 110 o bobl gan gynnwys llefydd i westeion anabl.
I gael rhagor o wybodaeth am gynnal digwyddiad yng Nghanolfan Dylan Thomas, cysylltwch â ni.