Sut i ychwanegu, golygu neu ddileu cofnod staff
Nodwch fod angen i chi fod yn weinyddydd i ychwanegu, golygu neu ddileu cofnod staff.
Mynediad Staff i'r Campws Byd-Eang
Bydd angen i staff mewn Canolfannau Cydweithredol fynd i rannau diogel gwefan y Brifysgol i gyflawni’r canlynol:
-
Ddefnyddio'r Llyfrgell Ar-lein
-
Lanlwytho dogfennau fel dogfennau cwrs, trosglwyddiadau cofrestru, trosglwyddiadau canlyniadau ac asesiadau drafft
Fel holl ddefnyddwyr rhannau diogel gwefan y Brifysgol, bydd angen i staff mewn Canolfannau Cydweithredol ddefnyddio cyfeiriad ebost unigryw fel enw defnyddiwr.
Cyfrifoldebau Canolfannau Cydweithredol
Cyfrifoldeb Canolfannau Cydweithredol yw cadw rhestrau staff yn gyfredol. Rhaid i aelod staff sydd â hawl gweinyddydd gyflawni’r canlynol:
-
Ychwanegu aelodau staff newydd sy’n gweinyddu neu ddarparu rhaglenni dilysedig gan Brifysgol Cymru
-
Golygu cofnodion staff sy’n bodoli eisoes (os bydd aelod staff yn newid ei (h)enw, cyfeiriad ebost neu statws gweinyddydd)
- Dileu cofnod staff yn syth os bydd aelod staff yn gadael y sefydliad neu yn peidio â bod yn rhan o weinyddu neu ddarparu rhaglenni dilysedig gan Brifysgol Cymru
ydd nodyn yn cael ei anfon yn flynyddol i atgoffa Canolfannau Cydweithredol i ddiweddaru rhestrau staff.
Ychwanegu, golygu neu ddileu cofnod staff
I ychwanegu aelod staff newydd, neu i olygu neu ddileu cofnod staff sy’n bodoli eisoes:
-
Mewngofnodwch i Fy Lle I: cliciwch ar y botwm mewngofnodi sy'n ymddangos ar frig pob tudalen ar y dde:

Cofnodwch eich enw defnyddiwr a chyfrinair Prifysgol Cymru. Os ydych wedi anghofio eich manylion mewngofnodi, mae dolen adfer cyfrinair yma (gwiriwch eich ffolder spam os na fyddwch yn derbyn yr ebost). Os nad ydych yn aelod staff cofrestredig, gofynnwch i weinyddydd yn eich sefydliad lleol ychwanegu eich manylion at restr staff eich sefydliad.
-
Cliciwch ar y ddolen Gweinyddydd:

-
Cliciwch ar y ddolen Cofnod Staff:

-
Cliciwch ar Ychwanegu Cofnod Newydd neu Golygu:
Pan fyddwch yn clicio ar y ddolen Cofnod Staff, byddwch yn gweld rhestr o’r staff yn eich sefydliad sydd â chyfrif Campws Byd-Eang ar hyn o bryd. Mae gennych ddau ddewis:
-
I ychwanegu aelod staff newydd, cliciwch ar y botwm Ychwanegu Cofnod Newydd
-
I olygu cofnod staff sy’n bodoli eisoes, cliciwch ar y botwm Golygu nesaf at enw aelod staff sy’n bodoli eisoes

Ychwanegu cofnod staff newydd
Pan fyddwch yn ychwanegu cofnod staff newydd, nodwch enw llawn a chyfeiriad ebost yr aelod staff (nodwch na ellir defnyddio’r un cyfeiriad ebost i fwy nag un aelod staff). Dewiswch y botwm Oes os oes angen mynediad gweinyddydd ar yr aelod staff a’r botwm Na os nad oes. Dim ond aelodau staff sydd angen lanlwytho dogfennau, gwirio gwybodaeth cynllun a chynnal cofnodion staff ddylai gael mynediad gweinyddydd. Unwaith i chi ychwanegu manylion yr aelod staff, cliciwch y botwm Cadw Newidiadau. Dylai aelodau staff newydd dderbyn ebost awtomatig gyda’u cyfrinair ac enw defnyddiwr o fewn 24 awr o gael eu hychwanegu at y system. Os nad ydynt yn derbyn yr ebost, gallant ddefnyddio’r ddolen adfer cyfrinair ac atgoffir defnyddwyr i wirio’u ffolder spam. Anfonwch unrhyw ymholiadau cyfrif/mewngofnodi at Cefnogi Campws Byd-Eang.

Golygu cofnod staff sy'n bodoli eisoes
Mae’r botwm Golygu yn caniatáu i chi newid enw a chyfeiriad ebost aelodau staff ac a ddylent gael mynediad gweinyddydd ai peidio. Unwaith i chi wneud y newidiadau angenrheidiol, cliciwch y botwm Cadw Newidiadau.

Dileu cofnod staff
Mae’r botwm Golygu yn caniatáu i chi ddileu cofnod aelod staff. Dim ond i aelodau staff sy’n ymwneud â gweinyddu neu ddarparu rhaglenni dilysedig Prifysgol Cymru y caniateir cyfrif Campws Byd-Eang. Rhaid i Ganolfannau Cydweithredol ddileu cofnodion staff yn brydlon pan fydd aelod staff yn gadael y sefydliad neu yn peidio â bod yn rhan o weinyddu neu ddarparu rhaglenni dilysedig Prifysgol Cymru.
Mynediad Gweinyddydd
Mae gan weinyddwyr freintiau gwefan ychwanegol. Dylid caniatáu mynediad gweinyddwr i aelodau staff sydd angen:
-
Lanlwythodogfennau fel dogfennau cwrs, trosglwyddiadau cofrestru a throsglwyddiadau arholiadau
-
Gwirio gwybodaeth cynllun a ddelir gan Brifysgol Cymru
-
Ychwanegu, golygu neu ddileu cofnodion aelodau staff sy’n ymwneud â gweinyddu neu ddarparu rhaglenni dilysedig Prifysgol Cymru
Os hoffech wirio a oes gennych fynediad gweinyddydd, cysylltwch â Cefnogir Campws Byd-Eang.
Cyn caniatáu mynediad gweinyddydd, sicrhewch fod yr aelod staff yn gymwys i’w dderbyn. Ni all Prifysgol Cymru gymryd unrhyw gyfrifoldeb am newidiadau a wneir gan staff sefydliad sydd wedi derbyn breintiau gweinyddydd.
back to top of page